Cloddiad Tai Llyn yn tynnu tua'r terfyn

Ar ôl i’r haf gael ei dorri ar draws yn gyson gan dywydd gwlyb , mae'r cloddio archeolegol yn Tai Llyn bron wedi'i gwblhau .

Rhifau 2 a 13 gloddiwyd ac mae adroddiad cloddio rhagarweiniol yn ymddangos ar dudalen Tai Llyn ar y wefan hon.

Mae'r Tîm Cloddio, dan arweiniad Bill a Mary Jones, yn cynnwys aelodau o Brosiect Cofio Cwmorthin a Chymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog . Cymerodd dros ugain diwrnod o cloddio i'w gwblhau - yn cynnwys cloddio y ffryntiad cyflawn o Rhifau 1 i 5.

Yn yr haf nesaf hoffwn gloddio un toiled tu ol i’r rhesdai cyntaf – y rhai o gerrig mynydd ac hwyrach hefyd darganfod y fynnon lle gaiff y trigoliol eu dwr..

Bydd gwirfoddolwyr cryf yn cael eu hangen i helpu gyda hyn gan fod blociau carreg trwm angen symud .

Gwyliwch ein tudalen Facebook am newyddion .

Diweddariad Prosiect 17/12/15

Er gwaethaf yr haf yn profi’n wael gwael iawn o ran unrhyw waith adeiladu llwyddodd ein contractwyr D & C Jones i gwblhau'r gwaith capio ar Capel Tiberias, Capel y Golan, Rhosydd Stablau a Tai Conglog. Mae Pont Gwyddelig wedi cael ei adeiladu rhwng trac Conglog a Phlas Cwmorthin a bydd hyn yn cael ei fonitro dros y gaeaf i weld a yw'n sefyll i fyny i’r llifogydd aml i fyny yno.

Mae'r coed o amgylch y Plas wedi cael eu tocio er mwyn atal canghennau difrodi ben y waliau a fydd yn fuan yn cael ei stripio o dyfiant.

Mae'r trac a ymunodd â Plas i Cwmorthin Uchaf wedi cael ei strimio i ganiatáu mynediad haws i'r tîm gwaith a cherddwyr ac mae gwaith ar Cwmorthin Uchaf bron a’I gwblhau. Gwyliwch am fwy o ddiweddariadau ... !!!

Diweddariad

Cyn i’r tywydd garw gydio llwyddodd y contractwyr D&C Jones i orffen capio muriau Rhifau 1 a 2 Tai Llyn. Dyma luniau o’r gwaith rhagorol a wnaethpwyd. Yn ogystal, gwelir luniau o Rhif 13, sef y bwthyn cerrig, a gliriwyd yn ddiweddar. Bydd hwn, ac unai Rhif 1 neu Rhif 2, yn cael eu harchwilio’n archeoloegol yn y gwanwyn, wedi asesiad pellach o’u cyflwr. Mi fydd yr archwliad yn sicir o fod yn gyffrous oherwydd ychydig fisoedd yn ôl darganfuwyd sgerbwd anifail hynod ddiddorol wedi ei gladdu tu ôl i le tân Rhif 13!

     

     

 

Tir-a-Môr yn rhoi £25,000 tuag at y prosiect

 

Yn dilyn rhodd breifat o £10,000 mis Hydref diwethaf, mae Prosiect Cofio Cwmorthin Remembered ar ei ennill unwaith yn rhagor, tro hyn yn sgil cymorth grant oddiwrth Tir-a-Môr Cyf, cwmni sydd yn dosrannu grantiau o’r Gronfa Treth Tirlenwi i gymunedau ar hyd a lled Gogledd Orllewin Cymru. Fel dywed Roger Dale, y prif weithredwr (cyfieithiad):

“Dechreuodd Tir-a-Môr ymwneud ag Antur Stiniog y ôl yn 2009-10 pan gynigwyd cefnogaeth grant ar gyfer creu llwybr lefel isel/llwybr beicio o amgylch cronfa ddŵr Tanygrisiau. Yn anffodus, oherwydd problemau gyda hawliau mynediad i’r tir a gyda nawdd ychwanegol, ni lwyddwyd i yrru’r prosiect hwnnw’n ei flaen o fewn bwlch ariannu Tir-a-Môr.

“Felly gofynnodd Antur Stiniog i Tir-a-Môr ystyried Prosiect Cwmorthin ac roedden wrth ein bodd o weld ei fod yn ddelfrydol ar gyfer cefnogaeth dan Amcan E o’r Gronfa Cymunedol Tirlenwi sef ‘Cynnal, Atgyweirio neu Adnewyddu Adeiladau Crefyddol neu Hanesyddol’, a’i fod o fewn bwch ariannau TAM.”

Daw’r grant yma a’r cyfanswm hyd at £10k o’r targed sydd ei angen i ariannu’r gwaith a glustnodwyd ar gyfer 2015.

 

Ychwanegodd Mel Thomas, Arweinydd y Prosiect,

“Rydym i gyd wedi gweithio’n hynod galed i godi’r arian sydd ei angen ers i ni benderfynnu peidio gwneud cais am Grant Treftadaeth y Loteri oherwydd y manylder gofynnol er mwyn cyrraedd eu meini prawf llwyddiant. Gan ein bod o fewn tafliad carreg i’n targed erbyn hyn, gobeithiwn ei gyrraedd yn ô fuan fel ein bod yn gallu rhoi ein sylw yn ôl i’r gwaith archeoloegol ac i ymchwil hanesyddol a chymdeithasol pellach.

Mae’r gwaith yn parhau ar resdai Tai Llyn ac mae’r gwaith capio wedi ei gwblhau ar furiau’r ddau fwthyn pen, sef y rhai mwyaf bregus ac agored i fygthiad tywydd garw’r cwm. Y capel iconig, Capel y Gorlan, yw’r nesaf ar y rhestr a gobethiwn y bydd y gwaith adferol arno wedi ei orffen erbyn y Nadolig.

Dymunwn ni, fel grŵp, ddiolch i Tir-a-Môr am eu cefnogaeth i’r prosiect ac edrychwn ymlaen i’w tywys nhw, a’n cefnogwyr ariannol eraill, o amgylch y prosiect gorffenedig cyn diwedd yr haf nesaf. Hoffwn ddiolch hefyd i Ceri a’i staff yn Antur Stiniog am eu holl gymorth a’u cefnogaeth di-baid. Mae eu proffesiynoldeb a’u hannogaeth cyson wedi bod yn gefn amhrisidwy ar y daith i gyrraedd mor bell.”

Sefydlwyd grŵp Cofio yn 2010 i ymchwilio i hanes y cwm a’I bobl. Ar un adeg, yn ystod uchafbwynt y diwydiant llechi roedd y cwm yn gartref i dros 200 o bobl a gadawodd y teulu olaf yn 1948. Dim ond un person a fu’n byw yn y cwm sy’n goroesi heddiw.

Mae cloddio archaeoloegol wedi digwydd yno ac mi fydd hynny yn parhau yn 2015.

 

Dywedodd Roger Dale of Tir-a-Môr bod y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod wedi chwarae rhan gryf yn sicrhau’r grant ganddyn nhw.

“Mae’r lefel o gefnogaeth cyhoeddus, ymchwil cefndirol a gwaith cynseiliol yn aruthrol a gobeithaf yn fawr y bydd Prosiect Cwmorthin yn cynorthwyo’r Diwydiant Llechi yn ei uchelgais o dderbyn Statws Treftadaeth y Byd.”

 

 

 Calendrau 2015 – Llwyddiant Ysgubol

Newyddion da - mae bron pob un o galendrau Cofio Cwmorthin Remembered wedi eu gwerthu. O argraffiad o 250, dim ond 16 sydd ar ôl. Mae’r rhain ar werth am bris gostynedig o £5 yn ‘Brethyn Blaenau’ a ‘Siop Antur Stiniog’.

Oherwydd i fusnesau lleol ein cefnogi trwy roi hysbysebion yn y calendr llwyddwyd i dalu am dros hanner y costau argraffu. Heb eu cefnogaeth ni fyddai’r synaid wedi bod yn bosib a dymuna Criw Cofio ddiolch i galon i bob un o berchenogion y busnesau am eu cefnogaeth gwerthfawr.

Wrth gwrs, rhaid i ni ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi ein cefnogi trwy brynu’r cynnyrch! Mae cefnogaeth o’r fath gan y gymuned ac ymwelwyr yn amhrisiadwy!

 

Cynhaliwyd raffl ar “Noson Goleuo Stiniog” ar gyfer Prosiect Cwmorthin a chodwyd £66. Yr ennillydd oedd Simon Anthony o Danygrisiau.

Copi wedi ei arwyddo o ‘Cwm Orthin’, sef porffolio photographig mewn du a gwyn gan y photograffydd o fri Tom Dodd o’r Manod oedd y wobr. Mae criw Cofio Cwmorthin Remembered yn diolch yn fawr i Mr Dodd am ei garedigrwydd.

COFIO’R AWYRENWYR IFANC

Ar Fehefin 28, 2014, yn Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog ymunodd arweinwyr y gymuned â phersonél o’r Awyrlu Prydeinig mewn Gwasanaeth Coffa er cof am wyth awyrennwr ifanc a gollodd eu bywyd yn y mynyddoedd o amgylch y dref yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r gwasanaeth dadorchuddiwyd cofeb o lechi lleol iddynt ym mynwent yr eglwys.

Yn ystod y gwasanaeth, dywedodd cyrychioyddyr Ayrlu Prydeinig, Wing Commander Clare Sharp o RAF Valley, Sir Fôn, “Dros saith deg o flynyddoedd yn ô l bu i’r dynion hyn wneud yr aberth mwyaf un, ac mae wedi bod yn llawer rhy hir cyn i’r aberth yma gael ei nodi. Heddiw rydym yn gwneud daioni â nhw.”

 

Yn wir, bu’r ymgyrch i drefnu’r gofeb yn un hir, ac roedd y gwasanaeth a’r dadorchuddio yn derfyn I dros flwyddyn o waith ymchwilio caled gan Mel Thomas a grŵp Cofio Cwmorthin Remebered wedi i un o’u gwirfoddolwyr nodi nad oedd cofeb i hogia’r awyrlu a gollod eu bywydau yn y mynyddoedd sy’n amgylchynu’r dref.

 

Dywedodd Mel Thomas, trefnydd y gwasaaneth a’r gofeb, “Yn ystod ein hywchwil i hanes Cwmorthin a bu i ni ddarganfod y drychineb pan fu farw Robert Bruce MacIntyre ar lethrau uchaf y cwm. Mewn trafodaeth gyda’r diweddar Evan Llewelyn Thomas, cawsom fanylion am fwy o drychinebau lleol a dywedodd yntau pa mor drist ydoedd nad oedd cofebau i’r awyrenwyr ifanc hyn. O ganlyniad penderfynon ni yrru ymlaen gyda’r ymgyrch i gael cofebau iddynt, a daeth yr awdur enwog Eddie Doylerush, sydd wedi cyhoeddi sawl llyfr am gwympiadau awyrenau yng ngogledd Cymru, atom fel arbenigwr/ymgynghorwr.

 

“Cyhoeddwyd y bwriad i gynnal gwasanaeth ym mhapurau lleol y trefi ble claddwyd yr awyrenwyr yn y gobaith o ddarganfod perthynasau. Llwyddon ni i ddarganfod teuluoedd Parkhurst a Killen ,ac olrheinwyd teulu MacIntyre Kamloops yn British Columbia.

 

Danfonon ni wybodaeth am y cwymp i Ganada ynghyd a’r darn bach o’r ysgyrion y gofynnodd y teulu amdano er mwyn cael diweddiad.

 

Ar ran y teuluoedd gwnaethpwyd fideo o’r gwanaseth a daeth aelod o bapur newydd o Pennsylvania i greu adroddiad a thynnu lluniau.

 

Danfonodd Llysgenhadaeth yr UDA ac Uwch Gomisiwn Canada negeseuon byr a blodeudorchau i’w gosod ar y gofeb.

 

 

Ebrill 5, 1942 - Pilot Officer Douglas MacGillvary Brown, Royal Air Force Volunteer Reserve, 21 mlwydd oed, o Bethlehem, Pennsylvania, UDA.

Fe’i laddwyd pan gwympodd ei awyren, Supermarine Spitfire Mk1, rhif cofrestredig X4239 o No.57 Operational Training Unit, Penarlâg, Sir y Fflint, ar y mynydd ger Llyn Newydd.

 

 

 Awst 9, 1942 – Pilot Officer Robert Bruce MacIntyre, Royal Canadian Air Force, 24 mlwydd oed o Kamloops, British Columbia.

Fe’i laddwyd pan gwympodd ei awyren, sef Hawker Hurricane Mk1, rhif cofrestredig P3385, o’r Merchant Ship Fighter Unit yn Speke, ar ben uchaf Allt y Ceffylau.

 

Mai 26, 1941 – Pilot Officer John Tiplady Brown, Royal Air Force Reserve, 26 mlwydd oedd o Harrogate, Swydd Efrog.

Fe’i laddwyd pan gwympodd ei awyren, Supermarine Spitfire Mk1, rhif cofrestredig P6834 o No.57 Operational Training Unit, Penarlâg, Sir y Fflint, i ochr gogleddol Moel Dyrnogydd

 

 

Mawrth 21, 1941 – y drychineb fwyaf erchyll pan gwympodd Vickers Wellington Mk1c rhif cofrestredig R3288 o 150 Squadron RAF, ar lethrau uchaf Meol Farlwyd. Roedd y criw ar eu ffordd adref wedi ymgyrrch fomio ar Lorient yn Llydaw pan aethant ar goll. Lladdwyd 5 o’r criw.

 

Flying Officer (Pilot) Charles Hamerton Elliot, 21 mlwydd oed.

Pilot Officer Roland Clive Parkhurst, 24 mlwydd oed.

 

Observer/Navigator Sergeant Harold Beddall, 27 mlwydd oed.

 

Wireless Op/Air Gunner Sergeant Lewis John Kirk, 27 mlwydd oed.

 

Air Gunner Sergeant John Killen, 20 mlwydd oed.

 

Goroesodd Air Gunner Sergeant Peter Martlew pan dorrodd y tyred ôl i ffwrdd yn y cwymp.

 

 

 

 

Douglas McGillvary Brown

 

 

 

 

 

 

 

Robert Bruce McIntyre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Harold Beddall

 

 

 

 

 

 

John Killen

 

 

 

 

 

Roland Parkhurst

 

Dymuna griw Cofio Cwmorthin Remembered ddiolch o waelod calon

  • i’r holl bobl a busnesau lleol a gyfrannod mor hael i’r gronfa i greu’r gofeb
  • i Andrew Roberts o Greaves Welsh Slate am roi’r lechen ble gosodwyd y cofebau unigol
  • i Len o Maricraft am greu’r cofebau unigol
  • i Hughes Specialist Transport o’r Manod am symud y lechen o Chwarel Llechwedd i’r eglwys
  • i John Jones o Danymanod am osod y cofebau unigol ar y lechen
  • i bawb a gymerodd rhan yn y gwasanaeth