Tai Llyn Adfeilion mwyaf hiraethus, gofidus a thrawiadol Cwmorthin yw Cwmorthin Terrace, a adnabyddir heddiw fel Tai’r Llyn. Fe’i gwelir gyntaf wrth ddynesu at y cwm o gyfeiriad Dolrhedyn, ac fel maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer, fe gydiant yn nychymyg pob ymwelydd gan eu croesawu i’r cwm cudd, cyn eu trosglwyddo yn ôl i oes aur y diwydiant llechi a chaledi bywyd mewn lle mor anghysbell. Sgerbydau ydynt bellach, sgerbydau o lechi a cherrig, sy’n cuddio dirgelwch a hanesion cyfoethog y cwm, ond mae iddynt fywyd goruwch-naturiol sydd wedi tynnu sylw a thalent ffotograffwyr ac arlunwyr di-ri. Wrth eu hastudio, yn araf bach maent yn rhyddhau eu dirgelion ac yn ein dysgu , nid yn unig am fywyd eu deiliaid, ond hefyd am sgiliau aruthrol yr adeiladwyr, sydd wedi sicrhau bod y tai hyn yn parhau, er eu dirywiad torcalonnus, i sefyll mor falch yn wyneb tywydd garwaf y fro a rhediad creulon amser. Adeiladwyd Tai’r Llyn mewn dau gam gan berchenogion Chwarel Cwmorthin. Codwyd yr wyth t%u0177 cyntaf allan o gerrig nadd yn yr 1860au. Adeiladwyd pump t%u0177 arall o flociau llechi yn yr 1870au gan ddod a’r cyfanswm i dri ar ddeg o dai erbyn cyfrifiad 1881. Yng nghyfrifiad 1871 roedd pob t%u0177, heblaw rhif 7, gyda phobl yn byw ynddynt ac roedd tri deg dau o bobl yn byw yn y rhes. Yng nghyfrifiad 1881, roedd pobl yn byw ymhob t%u0177 heblaw am rif 8 a rhif 13, ond gyda’r pum t%u0177 newydd, cymhlethwyd a chymysgwyd y system rifo.
Mae adeiladau’r 1870au yn llawer mwy sefydlog na’r adeiladau cynharach, er bod y rendro ar eu tu allan a leinin y muriau tu fewn wedi eu herydu’n llwyr. Mae’n debygol bod y deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y touau wedi eu ‘dwyn’ ar gyfer adeiladau eraill, gan nad oes dim o’r deunyddiau yma i’w gweld yn unman o amgylch yr adfeilion. Mae trefn rifo tai y rhes yma’n benbleth! Os yw’r wyth t%u0177 cynharaf, sef y tai cerrig, wedi eu rhifo o 1 i 8, fel dywed cyfrifiad 1871, yna mae’n rhaid bod y drefn rifo wedi ei symud yn ôl fel bod y pump t%u0177 newydd yn cymryd y rhifau 1 i 5, a rhif 8 yn newid i fod yn rhif 13. Wedi archwilio cyfrifiadau 1871 ac 1881 yn fanwl, ac yna’u cymharu, gwelwyd nad oes dim cydberthyniad rhwng teuluoedd a rhifau tai. Er hyn, mae yna un cliw a all ddatrys yr holl beth. Roedd gan y t%u0177 agosaf at yr afon drwydded i werthu tobaco felly mae gobaith y gall y Cofnodion Trwyddedu gynnig rhif pendant i’r t%u0177 hwnnw.
Yn y llun ar y dde gwelir y cyfuniad o lefydd tân yn nh%u0177 rhif 4, sy’n dangos bod dwy ystafell i lawr grisiau, sef cegin ac ystafell fyw, gydag o leiaf un ystafell wely/llofft gyda lle tân i fyny grisiau. Mae pob un o’r tai wedi eu hadeiladu yn dilyn y drefn yma.
Wrth edrych ar yr wyth bwthyn cerrig gwreiddiol, gwelir iddynt gael ei hadeiladu gyda sgil anhygoel, sgil sy’n cael ei arddangos orau yn y llun isaf ar y dde. Ceir yr olygfa orau o’r bythynod cynharaf o’r bryn tu cefn i’r rhes fel a ddangosir yn y llun ar y chwith. Gellir gweld y muriau blaen a’r muriau cefn o’r lleoliad yma, ynghyd ag adfeilion y tai bach / adeiladau allanol.
Gall astudiaeth bellach o’r rhan yma o’r adfeilion ddatgelu bod amrywiaeth o ddefnydd i’r adeiladau allanol hyn.
|
|
CLODDIAD TAI LLYN – ADRODDIAD RHAGARWEINIOL
Er i’r haf fod yn wael o ran tywydd, mae’r cloddiad archaeolegol yn Rhesdai Cwmorthin ar fin ei gwblhau. Canolbwyntiwyd ar ddau aneddle – Rhif 2, a adeiladwyd o ben blociau yn yr 1870au a Rhif 13, t%u0177 pen y rhes, a adeiladwyd o garreg gwlad yn yr 1860au. I son am yr ail gloddiad yn gyntaf. Gwnaed y mwyafrif o’r gwaith clirio gan ein contractwyr D & C Jones, gan fod y blociau cerrig yn rhy drwm o lawer i’w symud heb gymorth mecanyddol. Dadorchuddiwyd llawr o slabiau llechi a gwelwyd bod rhai wedi eu cymryd oddiyno yn ystod y blynyddoedd maith y bu’r t%u0177 yn wag. Dengys gofnodion y cyfrifiad mai prin fu’r t%u0177 yma’n gartref o’i gymharu a’r lleill, a chredir i hyn fod oherwydd ei fod wedi ei adeiladu’n wael ac yn dueddol o fod yn llaith. Efallai iddo gael ei gondemnio ar ryw adeg. Yr unig deulu sydd wedi eu rhestru, a hynny yng nghyfrifiad 1871, yw teulu Robert Davies (31), chwarelwr llechi, ei wraig Jane Davies (30), dau fab – John (6) ac Edward (3) ac un ferch Jane, 11 mis. Lladdwyd Robert mewn damwain yn Chwarel Cwmorthin y flwyddyn ganlynol. Adeiladwyd y t%u0177 o garreg leol gyda’r muriau mewnol wedi eu plastro. Ychydig o ddarganfyddiadau a gafwyd yma. Ond, er hyn, daethpwyd o hyd i’r dargafyddiad mwyaf diddorol tu ôl i’r prif le tân. Darganfuddwyd ysgerbwd anifail bychan yn syth tu ôl i’r briciau a ddefnyddiwyd i gynnal beth dybir i fod yn rhyw fath o ‘range’ o haearn bwrw. Doedd dim penglog gyda’r esgyrn ond wrth gloddio ymhellach daethpwyd o hyd i fwy o esgyrn sy’n ei gweud yn bosib bod dau, neu hyd oed tri anifail wedi eu claddu yno. Bu i’r milfeddygon yn Nolgellau archwilio’r esgyrn ond doedden nhw ddim yn gallu dweud yn ffurfiol pa greaduriaid a ddarganfuddwyd, yn bennaf oherwydd diffyg esgyrn penglog. Mi fydd y tim yn chwilio am archaeolegydd fforesnsig nawr i archwilio’r esgyrn yn fwy manwl. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gloddio Rhif 2 cyn i’r gwaith capio gael ei wneud gan i Rif 1 a Rhif 2 fod y tai olaf i’w haneddu. Cychwynodd y cloddio unwaith yr oedd y set wedi ei wneud yn ddiogel a’r capio wedi ei orffen. Tra bod Phil a Sion Hughes a Dafydd Roberts wrthi’n brysur ar y broses hir o symud rwbel muriau a tho o du mewn i’r t%u0177, bu’r tim archaeoleg wrthi’n dadorchuddio’r ardd gefn. Yn fuan dargafuddwyd bod llwybr yn rhedeg ar hyd cefn yr holl stryd gyda fflagiau llechi uniawn yn creu ‘wal’ i wahanu’r gerddi bychain a oedd yn gysyllteidig a’r tai oddiwrth y trac. Roedd llawr yr gerddi wedi eu gorchuddio gyda slabiau llechi afreolaidd. Caiff rhai o’r darganfyddiadau eu rhestru nes mlaen. Bloc o bum toiled gydag un draen oedd y trefniadau glanweithiol ar gyfer y rhan o’r rhesdai sydd wedi ei hadeiladu o lechi. Gweler ar y dde bellaf o ffigwr 1 (i’r dde). Does dim angen dweud i’r bloc gael ei adeiladu o ben blociau gyda llawr o slabiau llechi. Roedd y to hefyd wedi ei wneud o slabiau llechi yn gogwyddo tua’r de. Gweler golygfa fanwl-agos o un toiled islaw. (Ffig.2) Roedd yr amodau byw yn ofnadwy. Mor ofnadwy fel bod sylwadau am gyflwr y cyfleusterau glanweithol wedi eu rhoi gerbron cyfarfod y Cyngor Rhanbarthol yn mis Rhagfyr 1898. Wedi eu cynnwys yn adroddiad misol ar iechyd y rhanbarth dywed y ‘Cambrian News and Meirioneth Standard’, Rhagfyr 3ydd, 1898: “Yn adroddiadau misol Dr Jones, y swyddog meddygol, a Mr Williams, yr arolygydd glanweithdra, darllenon ni bod pedwar deg tri achos o glefyd heintus wedi eu nodi yn ystod y mis, o gymharu a saith deg ar gyfer y mis blaenorol, a pum deg dau yn ystod yr un cyfnod y llynedd. “Achosion o diptheria yw’r mwyafrif gan fod epidemig yn gyffredin ar hyd a lled y rhanbarth. Roedd eisiau galw sylw arbennig a di-oed y Cyngor i’r amodau dychrynllyd yng Nghwmorthin. “Dywedodd y Cynghorydd Humphrey Roberts: “Rydym wedi clywed adroddiadau ein Swyddog Meddygol a’n Arolygydd Glanweithdra am gyflwr truenus Cwmorthin. “Rydym wedi derbyn yr un adroddiadau am y lle sawl gwaith felly nid yw hyn yn rhywbeth newydd i ni. Mae’rlle mewn cyflwr dychrynllyd oherwydd bod y carthion ddim yn cael eu clirio. “Oes rhaid i ni aros am ddeg, ugain neu hanner can mlynedd arall cyn mynd ati i wella cyflwr pethau? Oes rhaid i blant bychain farw oherwydd ein hesgeulustod ni? “Ydw, rydw i’n ddigon hy i ddweud mai ein hesgeulustod ni sydd ar fai a’n bod ni yr un mor euog am farwolaethau’r plant bach diniwed hyn ag y bydden ni petaen ni wedi eu lladd nhw ein hunain. Roedd y draen ger y tai a doedd y carthion ddim yn cael eu clirio.” “Dywedodd y Cadeirydd bod y New Welsh Slate Company wedi cael gwybod bod angen iddynt wneud gwelliannau i’w tai. “Dywedodd Mr H. Robets nad oedd pwynt gofyn i’r Cwmni wneud rhywbeth pan dydyn ni ddim wedi gwneud dim. Gwyddai’r diweddar Reolwr yn ddigon da nad oedden ni yn gallu ei orfodi i weithio yno am y rheswn yma. Rydw i’n cynnig ein bod yn ymestyn y brif ddraen i fyny yno.” Doedd y drefn a ddarganfuddwyd ddim yn welliant mawr ar y sefyllfa uchod. Ymestynwyd y draen o’r toiledau i’r ffos a oedd yn cario d%u0175r o’r llyn i’r Felin Groes, tua hanner cilomedr i lawr tuag at ymyl y cwm. Byddai’r carthion yn cael eu fflyshio i’r ffos a byddai hon wedyn yn ei ddwyn i ffwrdd tuag at y felin, yna dros yr olwyn dd%u0175r ac i Afon Cwmorthin. Sefyllfa wael yn amlwg! Credir bod y system fflyshio yn gweithio â llaw gyda d%u0175r yn cael ei gario i ben y bloc (Ffig.3 uwchben) a’i ddanfon i lawr y draen. Mae’n bosib bod argae uwchben y toiled cyntaf a bod y d%u0175r yn crynhoi yno i gael ei ryddhau pan fod yr argae yn llawn er mwyn creu digon o rym i lanhau’r draen. Mae angen ymchwiliad pellach i weld os oedd fynnnon a oedd yn darparu d%u0175r yn naturiol yn bellach ar hyd y rhesdai. Uwchben ar y chwith mae’r arllwysfa o ddraen y toiled sy’n arwain i’r ffos. Ar ben gorllewinol y bloc toiledau mae set o risiau sy’ arwain i fyny i’r rhan glaswelltog uwchben y rhesdai ble mae dau bostyn y lein ddillad i’w gweld o hyd. Yma roedd y plant yn chwarae hefyd gan fod gêm fwrdd wedi ei chrafu ar un o slabiau to y toiled. Credir bod y gêm “Fox and Geese”, neu “Llwynog a Gwyddau” a’i gwraidd yng ngogledd Ewrop rhyw dro yn Oes y Llychlynwyr. Cystadleuaeth rhwng un Llwynog ac 13 Gwydd ydy’r gêm. Mae’r gêm yn dechrau gyda’r darnau yn y llefydd a ddangosir. Gall chwaraewyr symud darn i unrhyw le gwag cyfagos ar y bwrdd, unai’n fertigol, llorweddol neu’n groeslinol ar hyd y llinellau a farciwyd. Dim ond y Llwynog sy’n cael neidio dros ddarn arall. Amcan y Gwyddau yw dal y Llwynog trwy ei amgylchynu fel nad yw yn gallu symud na neidio. Mae’n rhaid i’r Llwynog geisio cael gwared o bob Gwydd, neu o leiaf o ddigon ohonynt fel bod dim digon ar ôl i’w ddal. Cariodd y cloddiad tu fewn i’r t%u0177 wedyn. Roedd y llawr wedi ei orchuddio gyda slabiau llechi Greaves-cut, wedi eu llifio, gyda’r rhan fwyaf wedi eu cymryd oddi yno mwy na thebyg pan mai Rhif 1 oedd yr unig d%u0177 wedi ei anheddu. Gan ganolbwyntio y gyntaf ar dwll-prawf yng nghornel ogledd-orllewinol yr ystafell, darganfuddwyd bod y llawr wedi cwympo ychydig. Roedd hyn yn sgil is-haen wedi ei hadeiladu i fyny o graig llawr solid er mwyn sicrhau llawr cytbwys, yr un peth ar gyfer Rhif 1 a mwy na thebyg ar gyfer Rhif 3 i raddau llai. Yna symudwyd ymlaen at y prif le tân (i’r chwith) ble dadorchuddiwyd adeiladwaith tebygol o’r cyfnod. Mae’n bosib iddo gynnal ‘range’ o haearn bwrw a oedd yn gyffredin yn y 19fed ganrif ac yn gynnar yn yr 20fed. Dargafuddwyd darn o haearn bwrw yn lle tân y parlwr (islaw) a enwyd y gwneithgynhyrchwr fel Carron of Falkirk, Scotland. Mae pob un o’r llefydd tân sydd yn weledol yn y bythynod a adeiladwyd o lechi yn union yr un peth gyda bron dim arwydd o unrhyw newidiadau. Does dim olion gweledol o’r grisiau i fyny i’r llofft ond roeddent yn gwyro yn erbyn y mur gyferbyn â Rhif 3 yn union ar draws o’r llefydd tân. Gan fod y rhan hynny o’r llawr ar goll, doedd dim olion o’r cynnalbren fertigol ar gyfer y grisiau nag o’r mur rhannol rhwng y prif ystafell a’r parlwr i’w gweld. Byddai gwaelod y grisiau ar ochr y drws ffrynt o’r ystafell gyda pen uchaf y grisiau yn gorwedd ar un o’r prif drawstiau a oedd yn creu to’r llawr gwaelod. Gan fod llawr gweithredol yr ystafell fyw ar goll doedd dim arwydd bod sbensh, sef yr ardal storio o dan y grisiau, yn bodoli. Er hyn, gan bod cael sbensh yn gyffredin yn yr ardal mae’n debygol bod un i’w gael. I’r chwith mae darlun o sut y byddai’r grisiau yn ffitio yn yr ystfell. Yna symudwyd y sylw i’r ardal tu allan yn wynebu’r llyn. Cloddiwyd blaen y tai i gyd yn llawn a dargafuddwyd nifer o fan bethau yno. Casglwyd gwydyr ffenest wedi torri, darnau o blatiau, jariau gwydr ayb. Daeth yn amlwg yn fuan bod blaen y tai yn cael eu trin gyda parch gan yr aneddleuwyr gan i erddi blodau bach hanner cylch wedi eu hymylu gyda cherrig gwynion (quartz) fodoli o flaen o leiaf tri o’r pum t%u0177. Atgyweirwyd gardd fechan Rhif 2 ar ddiwedd y cloddiad yn y gobaith y bydd yn gwella yn naturiol er mwyn rhoi syniad i ymwelwyr o sut yr oedd yn edrych. Jest tu hwnt i Rif 5 roedd grisiau yn arwain i’r llwybyr i Rifau 6 i 13. Cynlluniau yn dangos sut y cofnodwyd safleoedd cloddio Rhif 2 a Rhif 13 gan Bill Jones, Archaeolgydd y Prosiect. Llawr Rhif 13
| Yr iard gefn a’r mynediad wedi eu dadorchuddio. Gellir gweld y bloc toiled cymunedol ar y dde, uwchben.
Un o’r toiledau yn y bloc.
Gardd flaen wedi ei hatgyweirio a blaen Rhif 1.
Mae blaen yr holl dai wedi ei godi tua 1.5 metr yn uwch na’r llwybr gwreiddiol i’r bythynod a adeiladwyd o gerrig, fel y dangosir yn y llun islaw. Byddai wal wedi rhedeg ar hyd ymyl y llwybr gyda grisiau yn arwain i fyny i’r blaen tu hwnt i Rhif 1 ac yna yn arwain i lawr jest o flaen Rhif 5
Tu ol ac o dan y lle tan yma ddarganfyddir yr esgyrn Yr esgyrn a ddarganfuddwyd tu ôl ac o dan y prif le tân. |