Plas y Llyn

 

 

Cwmorthin Uchaf a Chwmorthin Isaf oedd y ddau aneddle hynaf yn y Cwm, a’r unig ddau nes darganfyddiad y lechen las gerllaw. Yr aneddle nesaf i’w godi oedd CWMORTHIN HOUSE, sef cartref Asiant/Rheolwr Chwarel Cwmorthin.

 

Adeiladwyd Cwmorthin House, neu Plas y Llyn fel y’i galwyd yn lleol, tua 1843 a disgrifiodd yr Asiant newydd Allen Searell y lle fel (wedi ei ddyfynnu o lyfr Graham Isherwood) “a comfortable house, garden and with ground to keep a horse and cows which will make a great difference in my family in comparison with what I have hitherto been in receipt of.”

 

Mae dau ffotograff o’r tŷ wedi dod i’r afael ac meant yn cynnwys y teulu a oedd yn byw yno ar y pryd. Er nad ydym yn sicr o pryd yn union dynnwyd y lluniau, meant yn bendant yn dangos adeilad mawreddog mewn cyflwr ardderchog. Yn ogystal â hyn mae gennym ddisgrifiad personol o gynllun y tŷ.

 

Cyn iddi farw fe astudiodd y diweddar Isobella Evans nee Wilson lun o adfeilion Plas Llyn. Wrth drafod y llun gyda’i mab Kevin Evans, sy’n dal i fyw yn Nhanygrisiau, esboniodd beth oedd pwrpas pob ystafell.

 

Uchod ar y dde mae llun deheuol o'r tŷ, yn dangos y prif le tân yn yr ystafell fyw a lle tân llai yn yr ystafell wely. Noder hefyd bod ffenest yr ystafell wely ar yr ochr chwith wedi ei chau gyda briciau llechi. I osgoi treth ffenstri tybed?

 

 

 

 

 

Dengys y llun ar y dde flaen Plas Llyn wrth edrych tua’r de. Yn y llun pellaf ar y chwith – a dynnwyd yn 1933 – gwelir Elizabeth Williams a’i dwy ferch Elizabeth a Mary Ellen.

 

Roedd yn amlwg yn adeilad o ansawdd yn ei amser, ac, fel y gwelir ar amwryw o dai ar wahân gwledig yn yr adral, roedd y muriau allanol wedi eu gorchuddio â llechi i’w hamddiffyn rhag y tywydd garw.

 

 

 

 

 

 

Yn y llun ar y dde gwleir olygfa o ran gogleddol blaen y tŷ. Tomen Llawr 2 Cwmorthin sydd yn y cefndir.

 

Thomas Williams ac Elizabeth Janet Williams yn 4ydd a 5ed o’r chwith. Hefin Williams yw’r bychan yn sefyll gyda Blodwen Williams a’r 3ydd o’r chwith yw Robert Williams. Tynnwyd y llun tua 1933.

 

Plas Llyn oedd yr enw lleol mwyaf diweddar ar Cwmorthin House, a chan iddo fod a thir gan gynnwys porfa o dan ei bryd-les – mwy na thebyg o dan reolaeth Cwmorthin Isaf yn wreiddiol – mae’n debyg iddo ddychwelyd i gael ei ddefnyddio fel fferm wedi cau’r chwarel.

 

Dengys y llun isod Glyn Orthin Williams yn sefyll ar ochr arall y llyn ar beth sy’n edrych fel adeilad ac iddo do o haearn rhychiog. Yn y cefndir gwelir prif ran y tŷ i’r dde o’r coed.

 

Wrth graffu’n fanylach ar y llun gwelir ei bod yn debyg i’r tŷ gael ei adeiladu mewn dau gam neu ei fod yn ddau aneddle yn wreiddiol.

 

Yr hyn sy’n arwain at hyn yw’r ffaith bod y rhan sy’n union tu ôl i’r cae – rhan dde’r tŷ – yn uwch na’r rhan sydd wedi ei rannol orchuddio gan y coed. Yn ogystal, gwleir bod y rhan tu ôl i’r coed yn ddyluniad gwahanol.

 

Gellir gweld hyn yn y llun o 1933 ar y dudalen flaenorol hefyd. Mae’r rhan o’r tŷ gyda’r cyntedd bach (porch) yn ymddangos fel bod ffenestri dormer ar y llawr cyntaf tra bod y tŷ mwyaf o ddyluniad dau lawr syth.

 

Rydym angen archwilio ymhellach i hyn.