![]() | Capel Tiberias Adeiladwyd Capel Tiberias, sef capel yr Annibynwyr, yr un pryd a bythynod cerrig Cwmorthin Terrace/Tai’r Llyn. Fe gostiodd ganpunt i’w adeiladu ac fe’i gwblhawyd yn 1866. Gallai ddal cant o addolwyr. Dengys y lluniau isod olygfeydd amrywiol o’r capel, wedi eu tynnu o fannau gwahanol. Does yr un llun o’r capel cyflawn ar gael.
I’r chwith: Dengys fynedfa’r capel wedi ei leoli yn y mur gogleddol.
|
Yn y llun ar y dde, ceir golygfa o’r bryn tu cefn i’r capel yn edrych tuag at Tai’r Llyn. |
|