![]() | Capel y Gorlan Wrth adael Capel Tiberias a dilyn llwybr ymyl y llyn yn bellach i galon y cwm, fe ddown ar draws man addoli arall. Dyma Gapel y Gorlan, capel y Methodistiaid Calfinaidd. Bellach yn adfail truenus, mae’r adeilad hwn wedi bod yn seren y ffotograffwyr dros y blynyddoedd, ac er iddo ddirywio’n araf ers i lechi’r to gael eu dwyn yn y 1970au, mae’n parhau i ddal y llygaid gan ei fod yn safle mor urddasol, yn gwarchod y llyn a’r cwm yng nghysgod y Foel Ddu. Galwyd y capel yn Gapel Cwmorthin ac yn ddiweddarach yn Gapel Conglog, ond credir mai Capel Golan oedd yr enw gwreiddiol. |
Mae Rhian Williams, ymchwilydd lleol sydd yn arbenigo yn hanes y Methodistiaid, wedi cofnodi cefndir y capel a gwelir gynnwys ei darganfyddiadau yma. Yng Nghist Presbyteriaeth Gorllewin Meirionnydd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), mae cytundeb prydles sy’n dilyn patrymlun prydlesau o’r fath rhwng tirfeddianwyr a brodorion lleol a ddymunai adeiladu neu ymestyn capel yn y cyfnod yma. Roedd y prydles penodol hwn, dyddiedig y nawfed o Dachwedd 1870, rhwng John Ralph Ormsby Gore A.S., tirfeddianwr lleol ar raddfa fawr (yn cynnwys Chwarel Rhosydd) a oedd yn byw yng Nghroesoswallt, ble arwyddwyd y ddogfen, ac Ymddiriedolwr ar ran Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Ffestiniog. Prydles ar gyfer Capel Cwmorthin oedd hwn, cangen o Gapel Bethel,Tanygrisiau. |
Capel bach ydoedd wedi ei leoli uwchben Tanygrisiau, mewn llecyn bach tawel ar ymyl y Molewynion – gyda llethr serth yr oedd angen ei ddringo i’w gyrraedd o Danygrisiau. Yn ôl yr hanes fe’i adeiladwyd yn 1867 (gweler dyddiad gwahanol wedi ei nodi nes ymlaen) ond bu Ysgol Sul yn cael ei chynnal ar fferm Cwmorthin Uchaf ers 1855. Roedd wedi ei leoli mewn man mor anghysbell, ble roedd y tywydd mor ofnadwy, bu’n rhaid cau’r capel am chwe wythnos yn 1895. Cynhaliwyd Ysgol Sul yn y bore a Phregeth yn y prynhawn | ![]() |
Cynhaliwyd y Cwrdd Gweddi bob yn ail nos Fawrth, ar yn ail gyda’r Gymdeithas. Credir i’r capel gau rhywbryd rhwng 1929 ac 1939, yn bosib wedi 1932. Wedi’r trafod gyda Ormsby Gore am y cyfle i brydlesu darn o dir ac yna dod i gytundeb, galwodd y Presbyteriaid ar lawer o’i gweinidogion (ac roedd digon o ddewis) ynghyd â sawl un o’r Blaenoriaid lleol, i arwyddo i fod yn ymddiriedolwyr ar ran yr Undeb. Y gweinidog lleol a enwyd gyntaf oedd Y Parchedig Owen Jones (Bethesda a Thabernacl, Blaenau Ffestiniog) yn 1864. Yna bu Samuel Owen (Tanygrisiau, o 1865), David Roberts (Rhiwbryfdir, o 1868), Elias Jones (Maentwrog, yna Talsarnau) ynghyd a’r Parchedigion Evan Jones (Corris, o 1867) a Robert Owen (Pennal, o 1865) gyda’r olaf yn ymddangos sawl gwaith fel yr Ymddiriedolwr. Robert Owen oedd awdur hanes defnyddiol y Prebyteriaid hefyd. Gweinidog cyntaf Capel Bethel, Tanygrisiau oedd Y Parchedig Samuel Owen ac felly fo oedd gweinidog Cwmorthin hefyd o 1865 hyd ei farw yn 1903. Roedd yn hanu o’r Bala, ble gafodd ei eni yn 1836 a chafodd ei effeithio’n ddwys gan Ddiwygiad 1859. Gweithiodd yn galed i hyrwyddo a chyflwyno’r mesur i gau tafarndai ar y Sul.
Dengys y darlun isod gynllun o’r capel a greuwyd gan Dr Michael Lewis yn ystod ei ymchwil i’r llyfr “Rhosydd Quarry” a ysgrifennodd ar y cyd gyda J H Denton ac a gyhoeddwyd yn 1974. |