Tai Conlog |
Wrth droedio’r llwybr i ben pellaf y cwm fe gyrrhaeddwn res arall o dai yn swatio wrth droed yr allt serth sy’n arwain i Chwarel Rhosydd. Dyma Rhosydd Terrace, neu fel y’i gelwid yn lleol, Tanrallt Rhosydd (dan allt Rhosydd) neu Tai Conglog (yn y gornel yma o’r cwm – congl = cornel). Cwmni Rhosydd Slate adeiladodd y rhes yma o chwe bwthyn. Credir yn eithaf pendant iddynt eu codi yn 1865-66 pan oedd peth wmbredd o ddeunyddiau adeiladu ar gyfer codi tai a chartrefi yn cael eu cario ar Dramffordd Croesor; mae’n debyg bod Chwarel Cwmorthin yn parhau i rwystro cerbydau ag olwynion rhag defnyddio’i ffordd nhw.
Mae’r lluniau isod yn cymharu’r aneddleoedd rhwng 1970 a 2012. Does dim llun wedi ei ddarganfod o’r rhesdai ar ddefnydd.
Y llun ar y chwith gan Dr Michael Lewis Llun gan Mary Thomas |
![]() | ![]() |
Yn ei llyfr ar Chwarel Rhosydd mae Lewis a Denton yn disgifio's tyddynnau yn reit fanwl: Wedi ei hadeiladu fel rhes o aneddleoedd ‘one up one down’ cyffredin, roedd y bythynod anghysbell yma ar gyfer teuluoedd; dengys cyfrifiad 1871 mai teuluoedd oedd yn byw ymhob un sef chwarelwr, ei wraig ac un, dau neu dri o blant. Er eu bod yn fach maent yn amrywio mewn maint o 10 i 15 troedfedd o led. Yn ôl pob golwg, un ystafell oedd i bob llawr, ond gan fod dau le tân ar lawr gwaelod pob bwthyn, mae’n debyg bod rhaniad pren yn torri’r ystafell yn ddwy. Mae’r drws ffrynt yn wynebu’r de ac yng nghefn pob bwthyn, yn wynebu’r gogledd, mae gardd neu iard fach sy’n cynnwys adfeilion adeiladau allanol – tai bach neu dai golchi efallai. O wenithfaen meant wedi eu hadeiladu nid llechi, ac mae’n amlwg bod y corn simdde ar y talcen dwyreiniol wedi ei adeiladu i sicrhau cymesuredd a chydbwysedd gweledol yn unig, oherwydd does dim lle tân oddi tano. Yng nghyfrifiad 1871 rhestrir bod dau ddeg saith person yn byw yn y rhes. Erbyn 1881 roedd hyn wedi cynyddu i bedwar deg un, gyda rhif 6 heb ei nodi. Mae’n anhygoel credu bod tri ar ddeg o bobl yn byw yn rhif 1 – John Williams a’i wraig Elizabeth, eu chwe mab a thair merch – a dau lojwr! Pan dyfodd Chwarel Conglog yn yr 1870au, doedd rhesdai Rhosydd ddim mor unig bellach gan i felin newydd y chwarel gael ei hadeiladu o fewn tafliad carreg i’w drysau ffrynt. Ond pan gauodd Chwarel Conglog yn 1909 dychwelodd tawlewch a hedd i’r trigolion. Erbyn yr 1920au dim ond un teulu oedd yn byw yn y rhes felly fe greuon nhw ddrysau rhwng rhif 4 a rhif 5 er mwyn cael mwy o le. |
Dengys y llun uchod, gyda chaniatad Dr Michael Lewis, y tri lleoliad ar ben y cwm gyda Capel y Golan yn y pellter. Ar y dde, yn y blaen mae Rhosydd Terrace, yn y canol gwelir Stabalu Rhosydd ac yn y coed, ar y chwith mae Plas Cwmorthin.