Plas Cwmorthin

Yn cuddio yn y coed, dros y nant o Resdai Rhosydd mae’r plas, sef Plas Cwmorthin. Adeiladwyd y tŷ urddasol hwn yn 1860 fel cartref i Reolwr (Asiant) Chwarel Rhosydd ac mae wedi ei adeiladu yn debyg i lawer o dai rheolwyr yr ardal gyda tho talcennog, llechi yn addurno’i ddau dalcen a chysgod ystâd bach o goed. Ar ddiwedd yr ardd mae tŷ bach dau dwll.

Roedd iddo bedair ystafell ar y llawr isaf, un ohonynt yn gegin gyda ‘range’, pedair ystafell wely fawr ac un fach, a selar gyda pobty anferth.
Rhaniadau tenau pren oedd y muriau mewnol. 

Daethpwyd a nwyddau i’r Plas ar ferlod o Danygrisiau, ac mae’n debyg mai olion un o’r troliau a ddefnyddiwyd sydd wedi eu daganfod yn yr adeilad a elwir yn Stablau Rhosydd. Oherwydd ei leoliad anghysbell roedd yn angenrheidiol bod digon o nwyddau wedi eu storio yn barod ar gyfer y Gaeaf, gan i dywydd garw a lluwchfeydd dychrynllyd wneud mynediad i’r cwm mewn unrhyw fodd, arwahân i gerdded, yn amhosib am wythnosau.

Rhwng 1860 ac 1932 cartref Rheolwr Chwarel Rhosydd oedd y Plas. Ar ddiwedd yr 1930au symudodd y teulu Williams o Resdai Rhosydd i un ystafell yn y Plas, cyn symud o’r cwm yn gyfan gwbl yn 1948 – y bobl olaf i adael.

Dengys y llun uchod y Plas yn yr 1870au gyda teulu rheolwr Rhosydd yn sefyll o’i flaen.

 

 

 

 

Dengys y llun ar ben y dudalen y Plas yn ei anterth gyda rhai o deulu Thomas Jones yn yr ardd. Yn ôl Cecil Jones o Borthmadog, Elizabeth, merch Thomas Jones sydd ar y chwith. Mae’r forwyn yn dal Elizabeth arall, sef nain Cecil Jones ac mae’r drydydd Elizabeth, gwraig Thomas Jones a hen nain Cecil, yn sefyll wrth y drws ffrynt.

 

Cawn grynodeb o’r tri asiant chwarel a fu’n byw yn y Plas gan Lewis a Denton yn eu llyfr am hanes chwarel Rhosydd.

Yr asiant oedd y person pwysicaf yn y chwarel gan iddo fod yn gyfrifol am redeg y chwarel o dydd i ddydd. Roedd hefyd yn rhoi cyngor i berchenogion y chwarel ac yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad polisïau hir-dymor. Yn y mwyafrif o chwareli, heblaw’r rhai mwayaf, dyn cyffredin oedd yr asiant, person oedd wedi cyrraedd ei statws drwy waith llafur a’i nodweddion personol. Roedd hefyd, heb os nac oni bai, yn Gymro Cymraeg oherwydd roedd mwyafrif helaeth ei weithwyr yn Gymry Cymraeg. Ar hyd ei hoes, o 1853 hyd 1948, dim ond tri asiant fu’n gweithio yn Chwarel Rhosydd.

THOMAS JONES oedd y cyntaf. Wedi ei eni yn Llandwrog yn 1815, bu’n gweithio yn Chwarel Cwm Machno am sawl blwyddyn, ble cafodd ei brofiadau ymarferol a’r sgiliau ar gyfer ei ddewis yn asiant Rhosydd. Cychwynodd fel asiant ym mlwyddyn gychwynol y chwarel ac arhosodd gyda hi hyd nes ei ymddeoliad yn 1878. Symudodd i Borthmadog ble fu farw yn 1885.

Roedd yn amlwg yn reolwr gwybodus ac effeithiol, yn ddigyblaethwr cadarn ond ar dermau ardderchog gyda’i ddynion.Yn ystod ei amser fel asiant roedd gweithiwr a fyddai’n gadael o dro i dro, ond i ddychwelyd cyn hir yn dristach ond yn ddoethach, gan ddweud nad oedd chwarel arall yn debyg iddi.

Yn flaenor Methodistaidd gyda tafod bigog a ffon yr oedd yn ei defnyddio i bwrpas, roedd gan Thomas Jones hiwmor bendigedig. Yn casáu ‘Mr’ a ‘Thomas’ roedd rhaid ei alw’n Thomas Jones, a dim byd arall; ond tu ôl ei gefn roedd pawb yn ei alw’n Hen Ewythr!

 

WILLIAM MORRIS oedd y nesaf. Yn enedigol o Danygrisiau, daeth yn glerc yn Rhosydd yn 1862, yna’n longiadwr y chwarel ym Mhorthmadog cyn ei ddyrchafu’n asiant yn 1878. Hefyd yn flaenor Methodistaidd, bu’n asiant hyd ei ymddeoliad yn 1906 pryd symudodd i Benmorfa. Bu farw rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Does dim llawer o wybodaeth am William Morris heblaw ei fod yn gymwys a galluog gan i’r chwarel gyrraedd ei brig yn ystod ei amser, yn ogysal a datblygu’n fecanyddol. Ond mae’n ymddangos ei fod yn dueddol o fod yn bwyllog a cheidwadol, o leiaf tua diwedd ei dymor fel asiant, ac felly yn anaddas i ymdrin ag argyfwng y Cwymp Mawr.

Roedd ei olynydd yn gymeriad a hanner, yn ddyn uchel ei gloch, llawn rhegfeydd, cyfeillagar a di-lol gyda’r gallu i ddod ymlaen gyda pobl ac sy’n dal i gael ei gofio’n annwyl.

 

EVAN JONES - dyn cyffredin a wnaeth ei ffordd ei hun yn y byd. Wedi ei eni yn 1867, dechreuodd ei yrfa fel torrwr llechi yn Chwarel Maenofferen cyn symud i Chwarel Croesyddwyafon, i’r dwyrain o bentref Ffestiniog, ble bu’n asiant am rai blynyddoedd cyn iddo symud i Rhosydd.

Fel asiant roedd yn llawn bywyd, yn fentrus ac yn flaengar a gallai dim byd ei rwystro, heblaw am yr hyn sy’n gallu rhwystro pawb - ffactorau economig.

Wedi i Rhosydd gau, dychwelodd i Chwarel Croesyddwyafon, ond roedd wedi gadael y Plas sawl blwyddyn cyn hyn oherwydd iechyd ei ferch Ellen Ann.

Fe gaiff y cymeriad hynod liwgar yma ei gofio ag anwyldeb yn y fro, nid yn unig am ei waith hynod fel asiant chwarel, ond hefyd ei waith di-flino yn yr ardal, a thu hwnt.

Fel capten yn y Rhyfel Mawr fe arweiniodd Y Welsh Miners Tunnelling Company yn Ffrainc a chafodd glod ddwywaith yn adroddiadau’r fyddin (dispatches).

Roedd yn weithgar o fewn gwleidyddiaeth lleol: bu’n gadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog a’r Cyngor Sir, bu’n Siryf Meirionnydd, yn Ddirprwy Lefftenant, yn JP ac yn 1935 cafodd ei urddo’n farchog am ei waith gwleidyddol.

Bu farw yn 1949.