Cwmorthin Uchaf

Caiff tyddyn Cwmorthin Uchaf y fraint anrhydeddus o gael ei gydnabod fel yr aneddle hynaf yn y cwm. Caiff hefyd y fraint o fod y mwyaf anghysbell a’r anoddaf i’w gyrraedd. Saif yng nghysgod clogwyn serth Allt y Ceffylau, ac mae’r daith i’w gyrraedd yn fwdlyd, yn wlyb ac yn dipyn o sialens!

Er hyn, hwn yw’r adeilad sydd wedi datgelu’r mwyaf am hanes y cwm a’i drigolion, ac mae’n amlwg iddo sefyll ar safle hynafol iawn.

Nid oes tystiolaeth digonol ar hyn o bryd i roi dyddiad pendant i Gwmorthin Uchaf, ond gallwn fod yn eithaf sicir nad hwn yw’r adeilad gwreiddiol. Dengys y llun ar y chwith bod o leiaf dau gyfnod o adeiladu ar y safle ac mae llawer wedi dyfynnu Sion Jones, un o drigolion y tyddyn a fu farw yn 100 oed yn yr 1860au, a ddywedodd bod ei deulu wedi trigo ar y safle ers wyth can mlynedd!

Mae’r ffermdy wedi datblygu dipyn golew ers hynny.

Gwnaethpwyd archwiliad rhagarweiniol o’r adeilad cyfredol gan yr archeolegydd lleol Bill Jones a daeth i’r casgliadau isod:

Rhan gwreiddiol yr adeilad yw’r rhan sy’n pwyso yn erbyn y bryn tu cefn i’r aneddle (y gornel agosaf at y camera yn y llun uchod ac sydd wedi ei nodi gyda A ar y cynllun i’r chwith.)

Daraganfyddwyd rhan o drawst nenfforch yn un o’r muriau sy’n cyfeirio at y posibilrwydd bod yr adeilad wedi ei godi yn ystod y bymthegfed ganrif.

Uchod mae argraff arlunydd o’r aneddle cyntaf ar y safle tua’r bymthegfed ganrif.

Mae hwn yn nodweddiadol o aneddleoedd Cymreig y cyfnod, tŷ un ystafell sef TYDDYN gyda CROGLOFFT. Byddai’r lle tân yn wynebu’r bryn tu cefn. Rhaid chwilio am dystiolaeth o hyn wrth wneud archwiliad manwl i’r safle.

O’r asesiad cyflym a wnaethpwyd o furiau’r adeilad cyfredol mae’n debyg mai’r cam nesaf yn ei hanes oedd ymestyn yr aneddle i gyfeiriad y llyn. Dyma pryd adeiladwyd y lle tân sydd yn weledol ar hyn o bryd. Dengys dyddiadu Dendro o gapan pren y lle tân iddo ddod o goeden a fu’n byw rhwng 1406 ac 1497 sy’n arwain at y posibilrwydd iddi gael ei thorri i lawr rhwng 1508 ac 1538. Credir felly i’r aneddle gael ei adeiladu o fewn yr ystod torri lawr.

Adeiladwyd y ddau ran yma o’r aneddle gyda cherrig a morter lleol ac mae’r muriau yn 0.6 metr o drwch ar gyfartaledd. Roedd tu fewn yr estyniad mwyaf diweddar yn 10.5 metr o hyd a 4 metr o led. Lleihawyd hyn gan fur rhanniad 0.35 metr o drwch pan rannwyd y tŷ yn ddau aneddle yn rhan olaf yr 1870au. Ym mur ddeheuol yr hon a ddaeth i fod yn brif ystafell mae’r lle tân bendigedig ag iddo’r capan pren. Mae’n mesur 2 fetr o led ac mae’n 1.22 metr o ddyfnder. Credir i’r uchder fod oddeutu 1.5 metr, ond fel yn y rhan gwreiddiol o’r aneddle, byddai clirio gweddill y llawr gwaelod fel rhan o gloddiad wedi ei drefnu yn fodd o roi dyddiad pendant i’r aneddle ac yn ein galluogi i’w fesur yn fanwl-gywir.

Uwchben y lle tân mae corn simdde sydd wedi ei hadeiladu’n arbennig o dda ac sy’n ymddangos iddi gynnwys troell fechan. Ond gall hyn fod oherwydd bod y simdde wedi ei hymestyn yn ystod yr hyn a gredir i fod y cam nesaf yn natblygiad yr aneddle, sef adeiladu ail lawr.

Ar ochr orllewinol yr adeilad gellir gweld dau gam ychwanegol i’r adeiladu.

Ar gefn yr aneddle mae adeilad un llawr sy’n mesur 6.0 metr o hyd a 3.3. metr o led. Mae ffenest hynod fach sydd wedi ei rhannol guddio yn y mur gogleddol ac mae’r drws allanol wedi ei leoli yng nghornel orllewinol y mur deheuol. Mae lle tân bychan yn y mur gorllewinol ac efallai bod croglofft wedi bodoli’n wreiddiol gan bod ffenest ar lefel uwch i’w gweld yn y mur deheuol. Yn ystod uchafbwynt y diwydiant llechi gwelir bod uchder y rhan yma o’r tŷ wedi ei godi tua metr yn uwch trwy roi blociau llechi ar ben y muriau cerrig gwreiddiol. Mae drws yn cysylltu’r estyniad gyda’r prif dŷ trwy’r ail ystafell a greuwyd gan ranniad yr 1870au.

Lle tân Ystafell B

Simdde Ystafell B

Adfeilion rhan D ac arwyddion o godi uchder rhan C gyda blociau llechi tua 1900.

 

Adroddiad Cloddiad Cwmorthin Uchaf

Mae‘r ail, Cwmorthin Uchaf, yn bodoli fel adfail eithaf cyflawn ac mae’n aneddle hynod ddiddorol.

Yn bennaf oherwydd hanes llafar lleol a thestun ysgrifenedig Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n cofnodi i un o drigolion yr aneddle, Sion Jones, ddweud, ycychdig cyn ei farwolaeth yn 1869 yn 98 mlwydd oed, iddo gofio’i dad yn dweud ei fod yn cofio i’w dad yntau honi i’r teulu fod yn byw yno ers 800 mlynedd!

Roedd y teulu yn sicir yn adnabyddus oherwydd eu hirhoedledd, gyda’r mwyafrif yn byw yn agos i gant, tra bod cyntaf anedig pob cenhedlaeth yn cael ei enwi’n Sion / John – dyna wraidd y cyfeiriad lleol i’r “Sion Jonesiaid”!

Ond preswyliad y Jonesiaid sydd wedi tynnu’n sylw ni ac ym mis Gorffennaf 2010 gofynnodd Mel Thomas i’r archeolegydd amatur lleol, Bill Jones, fynd gydag ef i Gwmorthin Uchaf i asesu’r adeilad.

Mae gan Bill flynyddoedd lawer o brofiad yn cloddio aneddleoedd Cymreig ac mae ar hyn o bryd ar fin dod a chloddiad wyth mlynedd ym mhentrefan Penamnen, ger Dolwyddelan, i ben. (www.dolwyddelan.org/heritage/taipenamnen)

Cafodd ei synnu’n fawr gan yr adeilad a’i gyfres dyrys o adeiladu o’r munud cyntaf. Pan ddarganfuwyd y trawst nenfforch yn un o’r muriau, dwyshaôdd ei ddiddordeb a chytunodd bod astudiaeth pellach o’r safle yn hanfodol.

Roedd y lleoliad a’r cyffinau agos yn mynd i achosi problemau dirfawr o’r cychwyn cyntaf!

Os yn dynesu o’r de mae’n rhaid croesi cors wlyb a mwdlyd iawn, ond dyma’r ffordd gyflymaf ar droed - o bell fordd. O’r maes parcio cyhoeddus agosaf mae’n daith 45 munud a byddai’n rhaid cario’r holl offer i’r safle. Buasai mynd rownd y llyn yn cymryd hyd at awr yn fwy, ac wedi mynd heibio’r Plas, mae’r tir yn dirywio i fod yn wlyb ac yn llawn tyllau corslyd beth bynnag. Yn ogystal, doedd dim gobaith cael unrhyw fath o gloddiwr mecanyddol yno gan fod y tir ar hyd ochr ddeheuol y safle wedi ei orchuddio gan drwch hanner metr o fawn.

Dangosodd y daith rhagchwiliad pa ystafell oedd y cynharaf o’r cynllun presennol, a chreuwyd tim i gloddio drwy’r 0.5 i 0.75 metr o rwbel mur a tho a orchuddiai’r llawr. Ar Awst 8, 2010, cychwynodd y cloddiad yn swyddogol.

Yn fuan wedi hyn, penderfynwyd creu dau dîm – un i agor ffôs ddraeniad i gael gwared o’r dŵr gormodol o’r cyffiniau agos a’r ail i ddal ati i glirio’r rwbel. Bu dwy archeolegydd amatur profiadol arall, sef Mary Jones, gwraig Bill, ac Avis Reynolds, yn monitro’r clirio ac yn gwahanu unrhyw ddarganfyddiadau. Gan fod y ffôs a’r llwybr a fyddai’n greu yn mynd i gymryd mwy o amser i’w thyllu, penderfynwyd, yn groes i’r graen, i dipio’r rwbel yn ardal yr ardd.

Clirwyd dros bum tunnell o rwbel a greuwyd gan ddymchweliad y to a’r muriau. Marciwyd lefel y llawr ynghanol yr ystafell a gadawyd gweddill y rwbel yn ei le nes bod asesiad llawn o ddiogelwch y mur cefn wedi ei wneud. Cofnodwyd darganfyddiadau bach yn ystod y gwaith uchod.

Bu Mrs Reynolds yn llwyddiannus yn clirio i lawr at lefel trothwy drws yr ail ystafell, a rhoddod hyn lefel i weithio ohono pan fyddai’r cloddiad yn symud i’r rhan hynny o’r aneddle.

 Initial drainage ditch

 

Llwyddodd y ffôs i wella ychydig ar ddraeniad y tir o gwmpas, ond oherwydd y corsennau trwchus a dyfai o’r mawn yn y rhan hynny o’r safle, araf iawn oedd y cynnydd.

 

 

Llawr wedi ei ddatgelu yn Rhan A

Ar Awst 29, 2010 cariodd pedwar aelod o’r grŵp ymlaen gyda’r cloddio. Gwiriodd Mary Jones a Mary Thomas lefel a chyflwr y llawr yn yr ystafell darged, gan ymestyn faint o’r llawr oedd yn weledol trwy glirio’r rwbel hyd at y gornel bellaf ac at leoliad y grisiau i’r llawr cyntaf. Datgelwyd llawr o slabiau llechi sgwar gan eu gwaith. Gwellhawyd y draeniad yn eithaf llwyddiannus gan Bill Jones a Mel Thomas, ond cadarnhawyd y ffaith bod angen graddoli’r ffôs o’r ddau brif ddrws i sicrhau gwell dylifiad.

Aeth Bill yn ei flaen i gloddio beth sylweddolwyd i fod yn storfa glo/mawn rhwng y talcen cefn a’r bryn.

Ar Ddydd Sul, Medi 26 aeth criw mwy yn ôl i’r safle i wneud gwaith pellach ar y draeniad ac i glirio mwy tu fewn a thu allan i’r adeilad. Ymestynwyd y ffôs ddraeniad tuag at waelod y mur dwyreiniol ac yna ar ei hyd er mwyn galluogi’r rhan yna o’r mur allanol gael ei gofnodi drwy ffotograff a grid. Bu’n rhaid aros i gofnodi’r talcen gogleddol sy’n pwyso’n erbyn y graig, nes gellir cofnodi’r mur tu fewn, gan fod gwyriad mewnol reit amlwg wedi codi pryder am ddiogelwch.

Yn ymweliad olaf 2010, sef Dydd Sul, Hydref 21, gwnaeth y grŵp gynnydd ardderchog.

Cofnodwyd ochr fewnol y talcen gogleddol trwy ffotograff a grid, cyn ei leihau o tua hanner metr a chael gwared o’r gwyriad peryglus.

Parhaoedd y clirio rwbel fel bod mwy o’r llawr wedi ei ddatgelu cyn belled â’r estyniad dwyreiniol, gan ddangos i’r llawr llechi gario ymlaen i’r ystafell nesaf.

Yn y drws, codwyd rhan o’r llawr i ddatgelu system-ddraenu-dan-y-llawr yn arwain tuag at y drws ffrynt. Lledaenwyd y llwybr draeniad allanol i alluogi symud rwbel oddiwrth y tŷ gyda berfa.

Yn ystod misoedd y gaeaf bu archeolegwyr y grŵp wrthi’n cofnodi’r darganfyddiadau ac yn cynhyrchu cynlluniau a darluniau o’r safle.

Ar ddiwedd Mawrth, aeth dau o’r grŵp, Gareth Morris Roberts a Steve Mundy, ar ymweliad cynnar i’r safle i weld os oedd y tywydd garw wedi gweud unrhyw niwed i’r aneddle. Yn ffodus doedd dim wedi digwydd er i’r ardal fod dan fetr o eira a bod y llyn wedi rhewi’n gorn am bron i fis! Tra yno, aeth y ddau ymlaen i glirio’r rwbel i gyfeiriad y lle tân gwreiddiol yn y talcen gogleddol, fel bod y tîm llawn yn gallu datgelu’r cynllun ar eu hymweliad nesaf.

Y llawr wedi ei ddatgelu’n llwyr

<<Draeniad dan y llawr

Digwyddodd hyn ar Ebrill 8, 2011, pan ddatgelwyd trefniant diweddaraf y lle tân. Er ei bod yn amlwg bod rhan flaen haearn y ‘range’ wedi ei gymryd i ffwrdd, roedd y cynllun yn glir. Tu fewn i’r simdde wreiddiol roedd fersiwn fwy modern ac ymarferol wedi ei chreu. Rhaid cofio i’r ffermdy fod yn wag erbyn diwedd y 1930au.

Ar yr ochr dde roedd popty gyda leinin o friciau a thwll-tân annibynnol oddi tani. Doedd dim cysylltiad amlwg o’r twll-tân i’r prif grid tân yn y canol i’r chwith ohoni. Byddai tân y prif ystafell yn reit lydan ac i’w chwith mae ardal sydd, ar hyn o bryd, yn parhau i fod yn benbleth.

Treuliwyd y mwyafrif o ymweliad Ebrill 21 yn canolbwyntio ar gofnodi’r llawr datgeledig, tra’n cofnodi ac yn datgysylltu mwy ar y lle tân. Roedd yn amlwg nad y llawr gwreiddiol oedd hwn gan iddo fod wedi ei greu o slabiau llechi unffurf wedi eu naddu a’u llyfnu a’u torri gyda llif gron Graves. Yn yr ardal o dan y grisiau roedd slabiau cerrig clai i’w gweld, a thybir i’r rhain fod yn rhan o’r llawr gwreiddiol, neu o leiaf o lawr cynharach. Cadarnhaodd y cerrig clai i’r rhanniad cul a adeiladwyd o gerrig man gael ei adeiladu ar ben y llawr a ddatgelwyd. Mae’n debygol i hyn ddigwydd cyn 1881 pan rannwyd y prif dŷ yn ddau aneddle fel a gofnodwyd yng nghyfrifiad 1881. Wrth archwilio ymhellach o dan y slabiau, darganfuddwyd ffosydd draeniad ychwanegol, wedi eu cysylltu i’r brif ffôs gynharach a redai’n gyfochrog â’r mur rhanniad ac allan o dan yr iard.

    

Lle tân wedi ei ddatgelu a chofnod o’r blaenlun

Ar Ebrill 28, aeth Bill Jones, Mary Jones ac Avis Reynolds yn ôl i’r safle i ddatgysylltu mwy ar y lle tân fel bod yr aelwyd wreiddiol yn gallu cael ei datgelu ar ymweliad pellach. Datgelodd cloddio pellach i’r lle tân aelwyd gynharach a silffoedd halen.

Mae’r wal ddwyreiniol, ble ddylai’r nenfforch sy’n dychwelyd fod wedi ei lleoli, wedi cael ei hailadeiladu yn ddiweddarach, a rhoddwyd ffenest fwy i mewn pan dynnwyd y nenfforch.

Adeiladwyd y tŷ heb sylfaeni sef ar blinth carreg, sydd eto’n cynnig iddo’i godi’n wreiddiol yn ystod y cyfnod Canoloesol.

Oherwydd hafau gwael, ni ddychwelwyd i’r safle hyd Medi 6, 2013. Bwriad yr ymweliad oedd i asesu Rhan B ar y Cynllun Dilyniant Cronolegol. Fel rhan A, roedd yr ystafell yn llawn rwbel ond, yn hytrach na chlirio’r ystafell i gyd, penderfynwyd tyllu ffôs siap L yn cychwyn ger y drws yn y mur dwyreiniol i redeg ar hyd y mur, heibio’r lle tân at y drws yn y mur gorllewinol. Fe’i greuwyd yn 1.8metr o led a chadarnhaodd hyn fodolaeth llawr o slabiau llechi. Trwy ei ymestyn i’r dde, o ddrws y mur dwyreiniol, cadarnahwyd eto i’r rhanniad gael ei adeiladu ar y llawr llechi, gan ategu’r ddamcaniaeth bod rhannau A a B yn un ystafell (cyn 1881), efallai gyda rhanniad pren wrth ymyl y grisiau yn ei rhannu’n ddwy.

 

Lle tân wedi ei rannol glirio yn Rhan B

Amcan arall i’r diwrnod hwn oedd i gloddio’r lle tân mawr a oedd wedi ei gladdu mewn rwbel o du fewn i’r simdde, fel a welir yn y llun ar y dde. Gwnaeth gyflwr amheus y capan pren hyn yn weithred a allai fod yn beryglus ond, wedi asesiad llawn o du mewn y simdde, sicrhawyd bod y cloddio’n ddichonadwy cyn belled bod gofal i beidio distyrbio’r capan. Roedd wedi pydru mwy ar yr ochr fewnol, ond roedd y garreg a’i ddaliai yn ddigon diogel a sefydlog. Unwaith iddynt orffen y ffôs, cloddiodd y criw yn ôl i fewn i’r lle tân, gyda’r rwbel yn cael ei archwilio’n fanwl am arteffactau.

Roedd y lle tân o wahanol ddyluniad i’r un yn rhan A ac ymddangosodd brest y simdde fel petai wedi ei ychwanegu at y wal gefn. Doedd y mur yma ddim yn ‘keyed-in’ i’r muriau dwyreiniol a gorllewinol.

Roedd dau dwll halen yn amlwg – un ar bob ochr yr ‘inglenook’.

Cliriwyd y rwbel o’r diwedd, i ddatgelu cyfluniad sydd ddim yn anhebyg i adfeilion rhan A.

Datgelodd cliriad pellach o’r lle tân yn ystod ymweliad cloddio Hydref 2014 ddau safle tân. Credir i’r un mwyaf ar y dde fod ar gyfer gwresogi’r tŷ, tra bod yr un llai ar y chwith ar gyfer coginio. Mae angen cloddiad olaf i gadarnhau hyn.

 Lle tân Rhan B wedi ei lwyr ddatgelu – gwaith i’w barhau