![]() |
Mynediad cynar i'r Cwm
Cyn sefydlu’r chwareli llechi yn y cwm, yr unig fynediad i’r ddwy fferm ac i unrhyw deithwyr, oedd ar hyd llwybr o Danygrisiau, gris-lwybr hynod serth a roddodd yr enw i’r pentref, sef ‘o dan y grisiau’. Mae hen hanesion gan amrywiaeth o ymwelwyr yn rhoi disgrfiadau manwl o’r siwrne beryglus: Pennant’s Tour in Wales c.1781 “About a mile from Cynfael is another comfortable inn (Pengwern Arms) which has often received me after my toilsome expeditions. “Opposite to it lies Cwm Cwmorthin; a retreat more sequestered, and much more difficult to access, than even Cwmbychan. “In my visit to it I descended through woods on a steep road into a very deep but narrow valley which I crossed and began a very hazardous and fatiguing ascent up the rocky front of a lofty mountain: the path narrow and dangerous and, I believe, rarely attempted by horses.” Y daith sy’n cael ei disgrifio yma yw’r daith o’r Pengwern Arms i lawr i Ryd-sarn a Chymerau ac yna i fyny i Ddolrhedyn ac yna i fewn i Gwmorthin ei hun. Yn y cofnod dwy gyfrol ‘Cymru (A National Dictionary of Wales)’ gan Owen Jones 1875 ceir disgrifiad manylach o’r daith, tro hyn wrth ddod i lawr o’r cwm. “On the hill above the cwm lies the remains of an old road, said to be that between Cricieth and Llanrwst. Old traditions state that the Old Britons preferred to make their roads on high ground to avoid the numerous wild animals that roamed the lowlands. “An inaccessible path reached down from Cwmorthin. There were sort of ‘grisiau’ (steps) near Tai y Muriau to get down to Dol Rhedyn known as the Grisiau Mawr, (Great Steps) and it was because of these that the populated area below was known as Tan y Grisiau (Under the Steps).” Adlewyrchir hyn yn y llyfr ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ gan G J Williams a gyhoeddwyd yn 1882. Yn absenoldeb ffordd o Danygrisiau, ysgrifennodd Williams ”Os am deithio o Danygrisiau i Lanfrothen , Beddgelert ayb, doedd dim opsiwn ond i fynd drwy Fwlch Cwmorthin. Rhaid oedd dringo llethr serth a oedd yn hynod anodd heb anifail cymwys.” (OS OES COPI GWREIDDIOL O’R DYFYNIAD GENNYT FEDRI DI EI ROI MEWN – MAE FY NGHOPI O’R LLYFR YN YR ATIG!!) Aiff Mr Williams ymlaen i ddweud bod Y Parchedig G J Freeman LIB, yn ei lyfr ‘Sketches of Wales’ wedi cofnodi ei syndod bod brodor o Gwmorthin yn teithio i fyny’r fath le ar gefn ceffyl! Fel Owen Jones, mae’r Parchedig yn disgrifio’i daith i’r cwm o’r gogledd-orllewin. “Monday July 4th 1825: We set up a pile of slate rock for a memorial of our visit (Moelwyn) and then departed towards Cwmorthin. “The first part of our way was over a broad morass of peat and heather, the next a most horribly steep descent among rocks and crags that looked like the ruins of nature. In the dreary bottom to which this conducted us, there reposed in gloomy blackness a lake of considerable extent surrounded on all sides by steep rocky hills “On Its shores I counted about half a dozen small patches of oats and potatoes and at the lower end is the abode of the cultivator, a house half smothered with rocks where I din not see a living thing. There were two or three enclosures near it, whence the stone had been cleared which produced tolerable herbage. Two or three torrents tumbling from the circumambient cliffs feed the pool, which in turn discharges itself in a pretty cascade. “This Cwm and lake, inclosed as they are by mountains that rise to a great altitude, are themselves 1500 feet above the sea; and never, surely, was any spot more gloomy and abstracted. Day light and productiveness must be for more than half the year excluded from it. “The descent is the most extraordinary I have ever made and very toilsome. It is a chain of steps, winding about crags that impend in all directions and I can compare it to nothing better than walking downstairs. “Beside it the river that issues from the Llyn above forms perpetual cascades, sometimes pouring in one sheet over broad ledges of rock, at others, scattering them with infinite divisions of water, and then again hiding its secret tide among hollows and fissures where it roars unseen. “About half way down we met a farmer, on his sure-footed mare, climbing to his mountain tenement. Ere we could pass it was needed that one party to deviate. This the farmer did and descended a little way into a nook in the rocks which I presume he considered as one of his best mowing fields for here there was a green vegetation of flags and rushes. “I was much amused by observing the painful movement of himself and the beast in their progress up these rocky stairs.” Dim ond un map o’r cyfnod cyn sefydlu Chwarel Lechi Cwmorthin sydd wedi ei ddarganfod hyd yma, ond dydy’r map yma ddim yn dangos llawer nac yn cadarnhau dim. Gwelir bod llwybr wedi ei farcio arno ond credir mai ‘ffordd’ chwarel gynnar yw hon yn hytrach na’r llwybr hynod gwreiddiol. Gweler pen uchaf y dudalen. Er hyn, dengys y map yma ddau aneddle sy’n dangos y dynesiad at y cwm. TAI’R MURIAU Pâr o dai oedd y rhain, ar droed y llwybr sy’n arwain i fyny i Gwmorthin a gofnodir yng nghyfrifiadau 1841 ac 1851 yn unig. Yn ei nodiadau ar gyfer taith gerdded dywysiedig yn 2008, dywed Steffan ab Owain i Dai’r Muriau gael eu henwi ar ôl grwp o gytiau cerrig a elwir yn lleol yn Furiau’r Gwyddelod. Sonir yn fras am y tyddyn yn ‘Cymru’ gan Owen Jones yn 1875 ond credir i’r safle gael ei gladdu o dan domen y Melinau Isaf rhywbryd wedi 1861 pan ddechreuodd cwmni Cwmorthin Slate gloddio am lechi o ddifri wedi iddynt sicrhau rhydd-ddeiliadaeth Stad Cwmorthin Isaf. Dywed Graham Isherwood, yn ei lyfr rhagorol ‘Cwmorthin Slate Quarry’ “The new company immediately began to make improvements; a tramway was constructed down from the quarry to the Ffestiniog Railway near Tanygrisiau which involved the construction of two rope-worked inclines.” Gelwir yr inclên sy’n rhedeg i lawr o lawr Melinau Isaf i’r dramffordd uwchben Dolrhedyn yn ‘Inclên Tai’r Muriau’ ar ôl y tai a oedd, mwy na thebyg, yn dal i fodoli pan gafodd ei hadeiladu yn yr 1860au cynnar. CLYTTIAU – tyddyn bach sydd wedi ei nodi ar y map di-ddyddiad. Roedd yn rhan o Stad Cwmorthin Isaf ond does dim mwy o wybodaeth wedi ei ddarganfod amdano hyd yma. Mae’n debyg i’r aneddle gael ei foddi yn eithaf buan yn hanes Chwarel Cwmorthin wrth i’r tomennydd dyfu i gyfeiriad y de ddwyrain. |
Daearyddeg – cwm crog ôl-rewlifol clasurol
Dyfed Elis-Gruffydd |
Caiff Cwmorthin ei ystyried fel enghraifft clasurol o gwm ôl-rewlifol. Dyma grynodeb o fanylion ffurfiad y cwm a’i ddaearyddeg sylfaenol gan y daearyddwr Dyfed Elis-Gruffydd. Mae Dyfed yn gyfarwydd iawn a’r ardal ers y 1940au pan oedd ei dad yn weinidog yn Nghapel Carmel, Tanygrisiau
|
Mae Cwmorthin wedi ei dyrchu, fwy na heb, yn lledfeini, mwdfeini a llechi (lledfeini a mwdfeini trawsnewidiedig) mecanyddol-wan Grwp Nant Ffrancon o’r cyfnod Ordofigaidd. Er hyn mae creigiau igneaidd caletach ymwthiol ac allwthiol megis dolerite, felsite a rhyolite wedi gadael argraff annileadwy ar y tirwedd yn ffurf clogwyni serth Allt-y-Ceffylau, i’r gogledd o Lyn Cwmorthin, y clogwyni dwyreiniol o dan gopa’r Foel Ddu, i’r gorllewin o’r llyn, a chlogwyni amlwg a mawreddog Craig Nyth-y-Gigfran a Chraig yr Wrysgan-Clogwyn yr Oen i’r gogledd a’r gogledd-orllewin o Danygrisiau. Mae clogwyni Nyth-y-Gigfran a Chraig yr Wrysgan-Clogwyn yr Oen yn cydweddu i greigiau folcanig Ffurfiad Folcanig y Moelwyn (lafa allwrthiol, lludw folcanig a llifeiriadau o ysgyrion folcanig; cynnyrch echdoriadau tan-forol) a rhiniogau rhyolite ymwthiol. Y gyfres yma o greigiau igneaidd caled sy’n gyfrifol am y cyfyngu amlwg sydd i’r cwm rhwng y llyn a Dolrhedyn. Ond, rhew nid tan oedd prif gerflunydd Cwmorthin. Gorchuddwyd yr ardal gan haen drwch o ia yn ystod y Cyfnod Devensaidd Diwethaf tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl ac mae Cwmorthin yn enghraifft arbennig o’r cymoedd crog a greuwyd yn ei sgil. Gyda’i lawr ar uchelder o 330 metr, mae’n hongian 150 metr uwchben llawr y prif gwm, sef cwm Tanygrisiau a gerflunwyd gan rew yn llifo tua’r de. Yn dyst i daith ddeheuol y rhew mae’r ‘roche mountonée’ ardderchog sydd gyferbyn a’r gored goncrit uwchben Caffi’r Llyn yn Nhanygrisiau. Fel mae enw’r pentref yn ei awgrymu, mae’r ris greigiog rhwng Tanygrisiau a llyn Cwmorthin yn llawn rhaeadrau a dyfroedd garw. Yn ogystal, nodweddir y rhan yma o’r cwm gan gyfres o ‘roche mountonée’ gyda’u llawrlethrau tyllog serth a’u llanlethrau crafiedig. Nodweddion eraill Ffurfiad Folcanig y Moelwyn yw’r siapiau oddfog trawiadol a welir ar ei hyd, rhyfeddodau eraill a greuwyd gan law hudol rhewlif eithaf bach Cwmorthin. Mae rhan uchaf a lletaf Cwmorthin, sydd wedi ei gerflunio o ledfeini, mwdfeini a llechi gwanach Grwp Nant Ffrancon, yn cydweddu i greicafn beiran pen-dyffryn mawr ac eithaf cymhleth (yn debyg i Gwm Idwal), sydd a’i wal gefn wedi ei dorri gan fwlch (Bwlch Cwmorthin-Bwlch y Rhosydd). Yn ogystal a’r beiran pen-dyffryn, mae creicafn beiran llai yn gorwedd o dan gopa Moel-yr-hydd ac yn wynebu’r gogledd. Ar ei llawr ceir marian rhewlifol sydd wedi ei chreu o erydiad clai, ac ar hyd honno gwelir ystod o fowlderi bach a mawr. Crafodd bwer erydu rhewlif Cwmorthin-Moel-yr-hydd y greicafn sydd bellach wedi ei lenwi’n rhannol gan Lyn Cwmorthin. (Does dim data am ddyfnder y greicafn na’r llyn ac mae’r rhwystr cerrig, a oedd yn cronni dwr y llyn, wedi ei godi’n uwch gan chwarelwyr.) Pan oedd y rhewlifiant diwethaf ar ei anterth, roedd rhewlif Cwmorthin-Moel-yr-hydd yn bwydo a chynyddu Rhewlif Tanygrisiau, (a oedd yn ei dro yn bwydo Rhewlif Dwyryd.) Ond o’r dystiolaeth ddaearyddeg sydd ar gael mae’n debyg ei fod hefyd yn bwydo a chynyddu Rhewlif Croesor trwy fwlch trawslifiant Bwlch Cwmorthin-Bwlch y Rhosydd, sydd a’i lawr ar uchelder o 400 metr. Mae bodolaeth y bwlch yn cynnig bod tagfa – gormodedd o rew – yn ardal Tanygrisiau, sy’n golygu nad oedd Rhewlif Cwmorthin-Moel-yr-hydd yn gallu dadlwytho’i lifiant llawn tua’r de. O ganlyniad torrwyd drwy wal gefn y beiran pen-dyffryn gan adael i weddill y rhew lifo i’r gorllewin. Tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl roedd yr ardal yn ddi-rew. Er hyn, yn ystod cyfnod oer rhwng 13,000 ac 11,500 o flynyddoedd yn ôl, cyfnod pan oedd rhewlifau bach yn ail-lenwi creicafnau peiran Eryri, mae’n bosib bod rhewlif bach, neu o leiaf gwely o eira parhaol, wedi ail-sefydlu ei hun yng nghreicafn Moel-yr-hydd gan ei fod mor gysgodol ac yn wynebu’r gogledd. Byddai’r weithred rhewi-dadrewi wedi malu’r creigiau gan greu llethrau sgri ar lethrau isaf y cwm. Yn ystod y cyfnod yma, ac yn ystod y cyfnod ôl-rewlifol (h.y. yn sgil yr hinsawdd yn cynhesu tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl), bu erydiad gan ddŵr yn gyfrifol am fewnlenwi llawr Cwmorthin. Roedd y tir gwastad rhwng pen y llyn a Phlas Cwmorthin yn rhan o Lyn Cwmorthin ar un adeg ond mae nawr wedi ei lewni gan ddyddodion llifogydd (tywod, llaid a graean) o’r neintydd amrywiol sydd yn llifo i’r cwm. |