Cofio Cwmorthin Remembered   

Creuwyd y grwp gwirfoddol CCR er mwyn diogelu ac amddiffyn treftadaeth Cwmorthin a hanes ei bobl.

Mewn partneriaeth ag Antur Stiniog Cyf mae’r grwp yn y broses o wneud cais am grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri (Heritage Lottery Fund) er mwyn diogelu adeiladau’r cwm rhag dirywiad pellach.

Os hoffech gyfrannu / roi rhodd i’r gronfa ddiogelu gallwch wneud hyn unai drwy siec yn daladwy i Antur Stiniog Cyf neu drwy roi arian parod ym mhencadlys Antur Stiniog yn Sgwar Diffwys, Blaenau Ffestiniog LL413ES.

Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.

Uwchben pentref Tanygrisiau ym Meirionnydd mae cwm cudd. Yn fan hudol i’r rhai sydd wedi troedio trwyddo mae gan Cwmorthin hanes unigryw ei hun – hanes caledi gwledig, un o bellenigrwydd ac o ddiwydiannu.

Ar un adeg bu’r cwm yn gartref i lu o deuluoedd y dosbarth gweithiol, wedi eu denu yno gan gyfoeth diwydiant llechi’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i ymuno gyda’r gymuned ffermio a fu’n byw yno ers carifoedd. Yn ôl y sôn mae pobl wedi byw yn y cwm ers yr unfed ganrif ar ddeg, hyd nes i’r person olaf adael yn ystod y pedwardegau. Heddiw, dim ond ysbrydion sydd ar ôl.

Creuwyd CCR yn 2010 i gario gwaith ymchwil blaenorol Mel Thomas, Arweinydd y Prosiect, ymlaen i’r cam nesaf. Yn sgil archwiliad archeoloegol o aneddle hynaf y cwm dan oruchwyliaeth yr archeolegydd amatur profiadol Bill Jones, penderfynnodd y grwp wneud cais am grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn diogelu’r adeiladau rhag dirywiad pellach.

Cadwch lygaid ar ein tudalen newyddion am unrhyw ddatblygiadau!