LLINELL AMSER PERCHENOGAETH

Ar hyn o bryd, y cyfeiriad cynharaf sydd wedi ei gofnodi yw’r isod, mewn dogfen Ladin sydd yn rhan o gasgliad Dogfennau Peniarth yn Llyfrgell Genedlethol Cymru (cyf.DA33). Dywed hon mai yn

1541

rhoddwyd y statws “Free Tenant of the King” (Harri VIII) i Ieuan ap Gruffudd ap John. Mae Martin Robson-Riley o LGC wedi darganfod achos yn y ‘Court of Chancery’ rhwng 1556 ac 1558 yn ymwneud â “Cumorthyn and land in the township of Festiniog.”

“Roedd yr achos rhwng William ap Ieuan, sef William Jevans ‘a pore prentice in the city of London’, a’i frawd John” esboniodd Martin. Fe ddylai’r dogfennau gwreiddiol fod wedi eu cadw yn Archifdy Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn Kew (y Swyddfa Gofnodion Cyhoeddus yn flaenorol), ond mae’n debygol bod William wedi ennill yr achos yn erbyn ei frawd, sydd felly yn esbonio’r Enghreifftiad (h.y. copi swyddogol) o’r ‘Bargain and Sale’ wreiddiol, dyddiedig Awst 6 1608 (Stad Peniarth DA136). Mae hefyd yn esbonio’r brydles, dyddiedig Tachwedd 6 yr un flwyddyn, rhwng William ap John, a gyfeirir ato bellach fel “William Evans of Slaugham, Sussex, clerk” ac Evan Lloyd o Benmachno (Stad Peniarth DA138).

Mae’r ffaith bod y Cwmorthin yma yn debygol o fod ym meddiant William ap Ieuan ap Gruffudd ap John (h.y. William Jevans neu William Evans of Slaugham) yn 1608, yn ei gwneud yn anhebygol mai yr un eiddo sydd wedi ei forgeisio gan Phivion ap John ap William yn 1595.

1608

Trosglwyddwyd Cwmorthin gan Ieuan ap Gruffudd ap John i’w fab William ap Ieuan ap Gruffudd ap John a’i etifeddion. Yn ogystal, rhoddwyd pŵer atwrnai i fab arall Ieuan, sef Richard ap Ieuan ap John.

Ond, yng nghasgliad Caerynwch, sydd hefyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ceir llythyr sy’n rhoi darlun croesdynnol. Ar Ragfyr 7 1838, ysgrifennodd William Ormsby-Gore o Porkington (sef Brogyntyn heddiw) at W P Richards o Lundain, yn disgrifio preswylfa Cwmorthin Ucha. Dywedodd iddo graffu ar weithredoedd y tir yr oedd yn berchen arnynt o dan Stad Brogyntyn gan roi patrwm tra wahanol i’r un uchod.

Cofnododd y canlynol:

1577

Elisabeth I yn rhoi tri breint-lythyr i Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, dyddiedig Gorffennaf 11, 1577, Gorffennaf 22, 1577 a Gorffennaf 31, 1577.

1588

Ar farwolaeth Robert Dudley, trosglwyddwyd y tir i Iarll Warwig, a drosglwyddodd y tir i’r Foneddiges Ann, Iarlles Warwig yr un flwyddyn.

1591

Gwerthodd Iarlles Warwig y tir i Arglwydd St John. Gwerthodd yntau’r tir i Leonard Baker o ‘The Arches?’

 

1595

Yn ddyddiedig Medi 22 ym mlwyddyn 37 o deyrnasiad y Frenhines Elisabeth (=1595) ceir “indenture and counterpart for the mortgage” rhwng ‘Phivion ap John ap William of Penyveth in Caernarvonshire’ a ‘William Maurice of Clennenau’. Mae’n debygol, gan fod y rhan gwrthrannol yn bresennol, bod y morgais neb ei dalu yn ôl ac felly bod Stad Clennenau wedi derbyn rheolaeth o’r tir.

Syr William MAURICE o Glennenau

Ganwyd William Maurice ym mis Ebrill 1542, yr hynaf o wyth o blant Maurice ap Ellis ac Ellen Puleston. Ef oedd y cyntaf o’i linach i fabwysiadu’r cyfenw Maurice, er i’w ddisgyniad fod yn gyflawn i dri cenhedlaeth blaenorol. Roedd hefyd yn dod o olyniaeth hir o ddynion a fu mewn swyddi cyhoeddus blaengar yng Ngogledd Cymru.

Bu’n briod tair gwaith; yn gyntaf i Margaret Wyn Lacon, aeres Stad Porkington, Swydd Amwythig; yn ail i Elin, gweddw un John Lewis, yn dilyn marwolaeth Margaret yn 1571 neu 1572, ac yn drydydd i Jane, gweddw Sir Thomas Johnes yn 1605. Cafodd William naw o blant gyda Margaret, y cyntaf pan oedd ond yn ddeunaw. Cafodd un plentyn arall gyda Elin.

Daeth yn Siryf Sir Gaernarfon yn 1593 ac yn Siryf Biwmares yn 1601. Roedd yn drafodwr di-baid yn ystod teyrnasiad Iago I ac roedd yn ffafrio’r Deyrnas Unedig. Cafodd ei urddo’n farchog ar Orffennaf 23, 1603. Er iddo dderbyn ond ychydig o addysg ffurfiol, bu’n ddarllenwr brwd yn enwedig o destunau megis y gyfraith, gwleidyddiaeth a diwinyddiaeth. Roedd hefyd yn Eglwyswr ac yn Freningarwr cadarn. Dywed rhai iddo fod yn gyfaill agos i’r Brenin Iago I, er i hyn gael ei wadu yn ‘Y Bywgraffiadur Cymreig.’ Cofnodir ei farwolaeth, ym mis Awst 1622, ar garreg fedd yn Eglwys Penmorfa.

ANGEN MWY O YMCHWIL AR GYFER YR AIL GANRIF AR BYMTHEG

1710 – 1799

Mae dogfennau Henry Rumsey Williams (1) yn cythryblu’r dyfroedd ymhellach ac yn cymhlethu’r stori. Yn y dogfennau hyn caiff y tir ei grybwyll mewn amryw o gyfeiriadau, yn dechrau gyda cyfeiriad at Richard Owen Esq a’i wraig Elizabeth yn 1710. Mae’r cyfeiriad nesaf at y Gwir Anrhydeddus Richard, Arglwydd Bulkeley a’r Arglwyddes Jane Bulkeley ond does dim dyddiad yn cydfynd. Ceir y cyfeiriad nesaf wedi hyn yn 1741, pryd mae sôn am un Edward Williams a’r Foneddiges Jane, tra bod un arall yn 1767 yn sôn am eu merch hynaf, sef Jane Williams. Y cyferiad olaf a geir yn y dogfennau hyn yw yr un yn 1799 sy’n nodi gwerthiant i Williams Wynne o Beniarth.

Mae llyfrau rhent Stad Brogyntyn yn nodi’r perchenogaeth canlynol:

1727

Mae Cwmorthin Ucha a Chwmorthin Issa dan reolaeth Stad Brogyntyn gyda Cwmorthin Ucha ar osod i William Pritchard am £8 y flwyddyn. Roedd Cwmorthin Issa ar osod i Robert Humphreys am ychydig yn llai, sef £6 y flwyddyn.

1744

Trosglwyddwyd deiliadaeth Cwmorthin Issa i Anne Humphreys a pharhaodd hyn hyd 1766.

1766

Roedd prydles Cwmorthin Ucha yn parhau ym meddiant William Pritchard ar hyn o bryd.

 

1773

Erbyn hyn roedd prydles Cwmorthin Ucha wedi ei drosglwyddo i John Williams a oedd yn talu £12 y flwyddyn. Cynyddodd hyn i £13 4s yn 1794.

Cadwalladr Owen oedd yn rhentu Cwmorthin Issa am £10 y flwyddyn. Cynyddod hyn i £18 y flwyddyn yn 1774 ond roedd yn cynnwys Fferm Tanygrisiau hefyd. Erbyn 1788 roedd Cadwalladr Owen yn talu £26 y flwyddyn am y ddwy fferm.

1782 - Mehefin 19

Cyhoeddodd Gwrit oddiwrth Sior III at Siryf Sir Feirionnydd bod William Wynne o Bennarth, Sir Feirionnydd yn herwog yn Llundain.

Roedd y Siryf i atafaelu ei holl eiddo: prif breswylfa o’r enw Peniarth Issa a thri tŷ arall sef Tŷ yn y Llwyn, Glanmachlas, a Bryn Tudor ynghyd â melin ddŵr malu ŷd o’r enw Melin Peniarth gyda’r 400 erw o dir cyfagos ym Mhlwyf Llanegryn, Sir Feirionnydd. Pysgotfa rhad ac am ddim yn Aberglaslyn ym mhlwyfi Llanfrothen a Beddgelert, a thiroedd ble mae ganddo ddiddordebau bywoliaeth – Tanygrisia ym Mhlwyf Ffestiniog a fferm o’r enw Cwm hirthin Issa ym Mhlwyf Ffestiniog a thiroedd o’r enw Cefn Gell Fron, Plas Captain, Hafod Wen, Tyn y Fronvent, Pen y Bont, Highgate, Dol Hardd, Cae Glas, Cae Gwair yr Allt Wen, Gors, Dol y Moch, Penern a Bodfydde ym Mhlwyf Trawsfynydd ynghyd â melin ddŵr malu ŷd, Felin Newydd, ym Mhlwyf Trawsfynydd a thiroedd o’r enw Gwylan a Llynteg ym Mhlwyf Maentwrog a tŷ o’r enw Doled ym Mhlwyf Llanfachreth, Sir Feirionnydd.

1804

Dengys dogfennaeth bod prydles Cwmorthin Ucha ym parhau ym meddiant John Wiliams ar yr un raddfa.

1817

Poole Solicitors – Sureties: John Jones, Cwmorthin Uchaf, parish of Ffestiniog, farmer, £40.      

Taken before Richard Hughes, for the said John Jones, to prefer a bill of indictment against William Jones, late of the parish of Llanfihangel y Traethau for obtaining the sum of £10 by false pretences, to appear at the next G.Quarter Sessions.  

1842

Dengys mapiau degwm y perchenogaeth fel hyn: William Ormsby-Gore yn berchennog ar dir Cwmorthin Uchaf gyda John Jones yn ffermio 733 erw.

John Lloyd Esq yn berchennog ar dir Cwmorthin Isaf gyda Griffith Richards yn ffermio 240 erw.

1861

Ar Orffennaf 25 prynodd y Cwm-Orthin Slate Company rhydd-ddeiliadaeth stad Cwmorthin Isaf a oedd yn cynnwys rhan o bentref Tanygrisiau.

Parhaodd y deiliaid i fyw ar y fferm hyd nes iddi gael ei chladdu o dan domenydd gwastraff Chwarel Cwmorthin.

 

1861 – 1948

I’W YMCHWILIO

1948

Fe gaiff tudalenau catalog ocsiwn pecyn Cwmorthin Uchaf gan Stad Brogyntyn yn 1948 eu dangos ar y tudalenau nesaf.

Mewn sgwrs yn 2009 gyda Peter Jenkins o Aberhonddu – yr asiant cyfredol ar ran y stad - cafodd Mel Thomas amlinelliad o’r pryniant ac o’r trosglwyddiadau dilynol.

“Prynodd fy hen Ewythr Sydney (Captain Matthews) bob un o’r eitemau yn ardal Ffestiniog a welir yn y catalog, ond fe werthodd dalp golew i MANWEB ar gyfer Cynllun Argae Stwlan. Yn ogystal, caffaelodd hawliau cloddio mwynau ar Ystadau Parc a Chroesor gyda Clough Williams-Ellis yn prynu’r tir ar yr arwyneb. Roedd hyn yn dod i tua 9000 erw, ond erbyn hyn mae Clough Williams-Ellis wedi prynu’r hawliau cloddio mwynau yn ôl ar bob rhan o’r tir heblaw am y tir o amgylch Chwarel Croesor, ble bu ICI yn storio’u ffrwydron am flynyddoedd lawer.

“Gwynneth a Pauline yw merched Captain Matthews. Bu farw Gwynneth y llynnedd ond mae Pauline in iach fel cneuen. Tim, fel y gwyddost yw fy mab i, ac mae Gwynneth a Pauline ( y ddwy yn ddi-briod) yn gyfnitherod cyntaf i fy mam, sy’n gweud Tim yn drydydd cefnder i Pauline!

“Fe gafodd Tim y tir gan y ddwy chwaer cyn iddo fynd i Awstralia, gan i bawb gredu mai fo oedd y person gorau i ddelio â’r holl broblemau fel Deddf Cronfeydd Dŵr 1971.

“Mae gan Tim rydd-ddaliadaeth tua 870 erw o gwmpas ac uwchben ochr dde Cwmorthin. Mae’n ardal siap losinen ar fap yr Ystad gyda Cwmorthin Uchaf jest o fewn y terfyn.”

Ni brynwyd Fferm Pant-y-Friog.