LLun gan Dr Michael Lewis

Stablau Rhosydd

Wedi gadael Capel y Gorlan a symud ymlaen ar hyd y llwybr, fe ddown ar draws adeilad arall. Mae hwn wedi cael sawl enw dros y blynddoedd, ond fe wnawn ni ei alw’n Stablau Rhosydd oherwydd fe’i adeiladwyd yn ystod rhan olaf yr 1850au gan Chwarel y Rhosydd, fel cartref i’r merlod a ddefnyddiwyd i gario’r llechi drwy’r cwm.

Cofnodwyd ei ddefnydd fel baracs yng Nghyfrifiad 1871, oherwydd cofrestrwyd dau ddeiliaid mewn adeilad o’r enw Rhosydd Barracks. Os ddilynwn daith Asiant y Cyfrifiad fe welwn fod lleoliad yr adeilad yma yn cyd-fynd yn union â lleoliad yr adeilad y soniwyd amdano yn 1871.

Gwelir cyflwr yr adeilad yn y 1970au yn y llun ar y chwith.

Yn y llyfr Rhosydd Slate Quarry gan M T J Lewis a J H Denton caiff ei ddisgrifio fel adeilad solid wedi ei adeiladu o wenithfaen, gyda rhan dde-ddwyreiniol sydd yn hŷn na gweddill yr adeilad. Fe aiff yr awduron ymlaen i esbonio mai stabalu oedd ar y llawr isaf, a bod adeilad arall, gyda llawr uchaf, yn gwyro yn erbyn y prif adeilad. Credir bod y mynediad i’r llawr uchaf drwy lofft gwair. Mae estyniad ychwanegol diweddarach ar yr ochr ogledd-orllewinol, gyda mynediad llydan sydd, er ei fod wedi hanner ei gau, yn ymddangos fel mynediad i sied droliau. Credir mai baracs oedd ar lawr uchaf y rhan yma o’r adeilad.

Lluniau gan Dr Michael Lewis

Darganfuwyd rhannau metel trol yn yr adeilad gwyro; strapiau, ymgynnalyddion ochr, hasbiau tinbren, bachau, sbring ac estyll ar gyfer olwynion gyda diamedr o bedwar troedfedd a chwe modfedd. Yn ogystal, roedd dwy ‘skid pan’ fawr yno, neu ‘sgidiau llusgo, i’w gosod dan olwynion ar lethrau serth, bachau tynnu a strapiau o fwnci pren coler ceffyl, byclau tresi, crib ysgrafellu ac un pedol addas ar gyfer Merlyn Cymreig tua pymtheg dyrnfedd o uchder.

Nid yw’r awduron yn sicir os mai o gert cario llechi neu o drol gyffredin y daeth y darnau hyn. Yn eu tyb nhw mae’n debygol iddynt fod yn rannau o drol cario nwyddau, sydd efallai yn dangos i’r adeilad fod yn le i strorio’r cerbydau a oedd yn cael eu defnyddio i gario bwyd, nwyddau a bobl i Blas Cwmorthin neu i Gwmorthin Uchaf.

 

 

I’r dde mae llun o gyflwr cyfredol yr adeilad. Cymharwch hwn gyda’r llun ar ben y dudalen i ddeall y dirywiad cyson sy’n digwydd i adeiladau’r cwm.

Defnyddiwyd cerrig o’r adeilad ar gyfer defnyddiau eraill dros y blynyddoedd.


 

 

Isod mae cynllun o'r Stablau gan Dr Michael Lewis